Pa mor hen wyt ti?
Postiwyd:
Mer 19 Gor 2006 8:59 pm
gan GutoRhys
Dwi wastad wedi bod o dan yr argraff fod y rhan helaeth o aelodau y maes yn ifanc iawn. Allan o ddiddordeb "Pa mor hen wyt ti?". Dim pwynt dweud celwydd (bo chi'n ifanc iawn, neu bo chi'n hen iawn !!).
Re: Pa mor hen wyt ti?
Postiwyd:
Mer 19 Gor 2006 9:45 pm
gan dafydd
Os ydyn nhw o dan 16 dylen nhw ddim bod 'ma
Falle bydd angen codi'r edefyn yma yn agosach at fis Medi hefyd..
Postiwyd:
Mer 19 Gor 2006 10:34 pm
gan Ramirez
O faharen sanctaidd. Dwi di gorfod pleidleisio 'o dan 30'.
Allai'm dygymod a hyn 'chi.
Postiwyd:
Iau 20 Gor 2006 12:50 am
gan Ioan_Gwil
dwin 61, allaim pledleisio!!!
Postiwyd:
Iau 20 Gor 2006 8:22 am
gan Y Fampir Hip Hop
Ramirez a ddywedodd:O faharen sanctaidd. Dwi di gorfod pleidleisio 'o dan 30'. Crio / Trist iawn Allai'm dygymod a hyn 'chi.
Crikey moses, a finne hefyd
Postiwyd:
Iau 20 Gor 2006 8:45 am
gan Barbarella
Ioan_Gwil a ddywedodd:dwin 61, allaim pledleisio!!!
Dwi di ychwanegu opsiwn arall i'r pôl, jysd i ti
Postiwyd:
Iau 20 Gor 2006 9:56 am
gan Gwen
Mae'r dewisiadau yn y llall na yn well hefyd. Dwi yn y categori 'dan 30' yn hwn, ond go iawn, a finna'n 28, chydig sgen i'n gyffredin efo rhywun 21. Dwi'm yn deud fod hyn yn wir am bawb fy oed i, ond dwi'm yn meddwl mod i'n eithriad chwaith.
Postiwyd:
Iau 20 Gor 2006 10:11 am
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Chwadan a ddywedodd:Y Fampir Hip Hop a ddywedodd:Ramirez a ddywedodd:O faharen sanctaidd. Dwi di gorfod pleidleisio 'o dan 30'. Crio / Trist iawn Allai'm dygymod a hyn 'chi.
Crikey moses, a finne hefyd
Iyp
Owff, nes i symud blwch yn ddiweddar ar lawer o ffurflenni, o 16-24 i 25-34. Tristwch. Fi moyn fy hen flwch nôl, falle cael morgais ar y peth.