Tudalen 2 o 3

PostioPostiwyd: Iau 20 Gor 2006 11:06 am
gan Mici
Owff, nes i symud blwch yn ddiweddar ar lawer o ffurflenni, o 16-24 i 25-34. Tristwch


A fi dydd Sul yma :ofn: :( :crio:

Hen bryd callio dwi meddwl...ella gai un 'swansong' meddw cyn troi yn chwarter canrif :)

PostioPostiwyd: Iau 20 Gor 2006 11:09 am
gan HBK25
26 :ofn: ...shit on a pole, lle mae'r amser wedi diflannu? Mind you, 'doedd bod yn ifanc a fool ddim yn llawer o hwyl 'chwaith, felly efalla bod yr ugeiniau hwyr yn well. Gobeithio, beth bynnag! :crechwen: :D

PostioPostiwyd: Iau 20 Gor 2006 11:45 am
gan Hogyn o Rachub


Ymdebyga, yn ol cymharu, fod y to ifanc wedi tyfu fyny, a'r rhan fwyaf o'r rheiny yn dueddol o farw cyn eu penblwydd yn ddeg ar hugain.

Mae Maes E yn ddrwg i'ch iechyd. Swyddogol.

PostioPostiwyd: Iau 20 Gor 2006 12:25 pm
gan garynysmon
19 oeddwn i yn yr edefyn olaf na. Dwi'n 22 rwan ac yn gweithio. Er, 'o dan 30'? :?

PostioPostiwyd: Iau 20 Gor 2006 12:46 pm
gan gronw
shwarli ddyle bod na ddewis arall i rywun yn ei ugeiniau cynnar? yyy, mae "dan 30" yn teimlo mor hen :crio:

PostioPostiwyd: Iau 20 Gor 2006 1:32 pm
gan Dwlwen
Chwadan a ddywedodd:
Y Fampir Hip Hop a ddywedodd:
Ramirez a ddywedodd:O faharen sanctaidd. Dwi di gorfod pleidleisio 'o dan 30'. Allai'm dygymod a hyn 'chi.

Crikey moses, a finne hefyd :ofn:

Iyp :crio:

GDG a ddywedodd:Owff, nes i symud blwch yn ddiweddar ar lawer o ffurflenni, o 16-24 i 25-34. Tristwch. Fi moyn fy hen flwch nôl, falle cael morgais ar y peth.

gronw a ddywedodd:shwarli ddyle bod na ddewis arall i rywun yn ei ugeiniau cynnar? yyy, mae "dan 30" yn teimlo mor hen :crio:


GutoRhys - wy'n gobeithio bo ti'n gwerthfawrogi faint o complex wyt ti 'di rhoi i rhanfwya (yn ol y pol piniwn) o aelodau'r maes 'ma heddi!

Bobl bach - dan 30 ni'n ticio. Fyddwn ni ddim yn hen tan bo ni drosti :winc:

PostioPostiwyd: Iau 20 Gor 2006 4:57 pm
gan ceribethlem
Fi'n dod o dan y blwch dan 40 :( , mae cael y rhif 40 ynddo fe yn neud fi'n deimlo'n hen uffernol, 30+ swno cymaint mwy ifanc rhywffordd!

PostioPostiwyd: Mer 02 Awst 2006 9:17 am
gan ffawydden
Dim ond newydd droi'n 30 ydw i - a dwi newydd gael uffar o sioc o orfod ticio O dan 40. Bw hw :crio:

PostioPostiwyd: Mer 02 Awst 2006 9:48 am
gan nicdafis
Ro'n i'n eitha hapus i gael ticio'r un blwch. :wps:

PostioPostiwyd: Mer 02 Awst 2006 10:38 am
gan ffawydden
Hi hi - dibynnu ar y sefyllfa mae'n siwr dydi! Paid â phoeni, mae'n digwydd i bawb! :winc: