Tudalen 1 o 2

Postio llun mewn neges

PostioPostiwyd: Maw 01 Awst 2006 7:11 am
gan Manon
'Dwi'n thic.

'Dwi wedi darllen ar 'sut i ddefnyddio maes-e' bod rhaid i lun fodoli ar y we cyn i mi allu postio fo ar neges ar y maes. Sut 'dwi'n rhoi llun ar y we? 'Dwi'n siwr eich bod chi i gyd yn torri'ch bol i weld ffoto o fy nhattoo newydd :winc:

Diolch.

PostioPostiwyd: Maw 01 Awst 2006 8:33 am
gan Gwen
Y peth hawsa o bosib fysa agor cyfri Flickr a sganio dy lun i fanno. Yna ei gopïo i fama. Fel hyn:

Delwedd

:D

PostioPostiwyd: Maw 01 Awst 2006 8:40 am
gan Gwen
Fyddi di'm angen sganio os oes gen ti gamra digidol chwaith. Sgen i ddim.

PostioPostiwyd: Maw 01 Awst 2006 3:33 pm
gan Mali
Ydi mae flickr yn wych! :D
Yr unig beth dwi heb ei feistrioli ydi sut i gael llun ar faes-e ....fel un yn neges Gwen. Er hynny, mae linc yn gweithio'n iawn .

PostioPostiwyd: Maw 01 Awst 2006 3:45 pm
gan Manon
Gwen, mae gweld y llun yna'n g'neud i fi isho crio. 'Dwi 'di torri 'ngwallt hyfryd, a'i lifo fo'n blonde. pam nes i beth mor wirion? :crio:

Wedi agor cyfrif flickr ond 'dwi DAL methu postio llun ar y maes! Dyma sy'n digwydd pan 'dwi'n trio g'neud:

Delwedd

PostioPostiwyd: Maw 01 Awst 2006 3:47 pm
gan Gethin Ev
Mali a ddywedodd:Yr unig beth dwi heb ei feistrioli ydi sut i gael llun ar faes-e ....fel un yn neges Gwen.


Defnyddia http://www.imageshack.us i rhoi llynia i fynny ar maes-e.

PostioPostiwyd: Maw 01 Awst 2006 3:47 pm
gan Mihangel Macintosh
Delwedd

PostioPostiwyd: Maw 01 Awst 2006 4:02 pm
gan Mihangel Macintosh
Manon

Ti angen clicio ar y bwtwm 'All Sizes' uwchben y llun

Yna dewusa faint (canolig neu bach bydde ni'n argymell ar gyfer maes e)

Clicia ar y maint yna sgrolia lawr o dan y llun i gael URL (code) y llun.

Sef - http://static.flickr.com/59/203942157_616e5ff9eb.jpg

Defnyddia'r tagiau i arddangos y llun.

PostioPostiwyd: Maw 01 Awst 2006 4:09 pm
gan Mali
Gethin Ev a ddywedodd:
Mali a ddywedodd:Yr unig beth dwi heb ei feistrioli ydi sut i gael llun ar faes-e ....fel un yn neges Gwen.


Defnyddia http://www.imageshack.us i rhoi llynia i fynny ar maes-e.


Mae hwna'n newydd i mi ! :syniad:
Mae hyd yn oed yn fy nghroesawu fi fel maes-e .com visitor! 8)

PostioPostiwyd: Maw 01 Awst 2006 4:18 pm
gan Mali
Wedi dilyn dy gyfarwyddiadau i Manon, MM....reit croesi mysedd a :
Delwedd


Wypi dŵ ! :D
Llawer o ddiolch i ti MM.