"Eironi" dyn ni'n galw hwnna, 'chan.
Mae rhaid mod i'n dueddol, ond dw i wir yn meddwl bod maes-e yn fwy coesawgar i aelodau newydd na'r rhan fwya o fforymau ar-lein eraill dw i wedi bod yn rhan ohonyn nhw. Dydy pobl ddim yn cael amser caled am "beidio ffito mewn i maes-e", ond weithiau maen nhw yn ei gael e am beidio dilyn rheolau "netiquette".
Heb eisiau swnio fel proffwyd sinigaidd, byddwn ni'n gweld yn yr wythnosau nesa 'ma, wrth i'r ysgolion a cholegau mynd yn ôl, llu o aelodau newydd a fydd yn neud yn union yr un "camgymeriadau"* a wnaeth aelodau newydd maes-e ym Medi 2003, Medi 2004 a Medi 2005. I'r rhai ohonon ni sy wedi bod 'ma ers y dechrau, bydd hyn jyst tipyn bach mwy pryfoclyd nag oedd hi yn 2005, 2004 a 2003. Bydd yn fwy pryfoclyd byth yn 2007, 2008 a 2009.
Bai pwy yw hynny? Nid bai'r aelodau newydd, siwrli? Fydd aelodau newydd Medi 2006 ddim yn fwy neu'n llai di-glem nag oedd aelodau newydd Medi 2003, gan gynnwys rhai o'r bobl sydd erbyn hyn yn hiraethu am "oes aur maes-e".
Dw i wedi bod yn trwshio côd yn llofnodion aelodau newydd ers Awst 2002, a dw i dal yn joio dod yma, a dw i dal yn joio darllen cyfraniadau aeldoau newydd.