Tudalen 1 o 6

Chwyldro yn erbyn rhai Maeswyr.

PostioPostiwyd: Iau 24 Awst 2006 5:18 pm
gan sion_llanclan
Annwyl Cyd Maes-Ewyr,

Ers rhai amser rwyf yn teimlo bod Maes-E wedi troi yn lle gas. O’n i meddwl pwynt Maes-e oedd i hybu yr S.R.G (drwy rhestru y gigs oedd yn dod i fyny a bobol ynsiarad am ei band newydd), diwylliant Cymraeg, i bobol dweud syniadiau sut i wella pethau, dweud ei barn am phethau a.y.y.b nid i slagio off bandiau newydd, ffraeo a trio fod yn glyfar yn erbyn Maes-Ewyr newydd. Dwi'n teimlo bod mae rhai (lleiafrif o Maes-Ewyr (dwi ddim am enwi nhw achos dwi'm isio Maes-Ewyr eraill yn mynd i protestio yn erbyn yr hyn dwi'n teimlo a dwi'm yn hoffi categereiddio bobol 'na dylanwadau Maes-Ewyr eraill i casau y pobol yma) yn meddwl mae nhw'n rheoli Maes-E ( a dydw i ddim yn sôn am y cymedrolwyr).

Wrth ysgrifennu hyn, dwi'n teimlo fydd rhai o chi'ngalw fi pob enw dan haul ac yn dweud wrth ei hunain:-
Dyfyniad a ddywedodd:Be ffwc ma'r pric ma'n siarad am? Sbio mae o wedi wneud?


A rhaid i fi ddeud mae nhw hanner gywir gyda'i dyfyniadau hwy. Ia dwi wedi wneud llawer o mistecs ar Maes-E - ond dwi'm hynna ddrwg a dwi' gwybod be dwi'n siarad am...wel...dwi'n meddwl...hmm. Peth arall mae pobl yn mynd i ofyn: -

Dyfyniad (dylai chi trio siarad fel cofi dre' i cael maximum effect) a ddywedodd:Pam ffwc ma hwn wedi rhoi edefyn yma? Pa fath o 'effect' geith yr edefyn yma ar yr hyn mae o'n teimlo?


Dydw i ddim yn trio cymryd y piss allan o cofis achos bysa chi heb Cofi Bach a Tew Shady, Bryn Fon a Caffi Cei. Ma jyst yn swnio fod Cofi yn siarad tra dwi'n sgwennu y dyfyniad yma. Chwaith, dwi'm yn trio cyfleu bod Cofis yn bobol gas, anwybodus.

Pwynt yr edefyn yma i mi ydi trio gweld os ydi Maes-Ewyr eraill yn teimlo yr un peth a fi. Os ydych chi'n teimlo fod Maes-E ddim yr un peth a oedd hi o'r blaen, postwich neges ar edefyn yma.

A fel wnath Gruff Rhys ddweud: -
'Ni yw y byd, Ni yw y Byd, Paratown am chwyldro Maes-E achos Ni yw y Byd'.

Sion. [quote]

PostioPostiwyd: Iau 24 Awst 2006 5:49 pm
gan Manon
Ma' 'na bobol ar Maes-e sy'n deud petha' jysd er mwyn codi gwrychyn 'dwi'n meddwl, 'mond er mwyn cael ymateb. Ond, i fod yn onast, ti'n cael hynna ym mhob man dwyt. A 'dwi ddim yn meddwl y dylai maes-e fod jysd am y sin roc Gymraeg, chwaith. Mae o'n bwysig iawn i ni gael canfod pa gacen ydi'r ffefryn gan ein cyd-Gymry, a ballu. :lol:
Yn fy marn i, dylia ni faeswyr jysd beidio sbio ar yr edefynnau sy'n mynd dan ein croen... 'Dwi RIOED 'di sbio ar yr edefyn gwleidyddiaeth am y rheswm yna.
Cofiwch chi, mae rhoi sylw i blant bach sy'n cambihafio 'mond yn 'i g'neud nhw'n waeth... :winc:

PostioPostiwyd: Iau 24 Awst 2006 7:03 pm
gan 7ennyn
Tydi Maes-e yn ddim gwahanol i unrhyw negesfwrdd agored arall ar y We. Mae yna lot o bryfocio a thynnu coes - ac mae'n hawdd camddehongli pethau mae eraill yn ei ddweud. Os wyt ti'n berson sydd yn hawdd i'w bechu, mi ddylia chdi ystyried yn ddwys os ydi o'n syniad da i chdi hongian o gwmpas mewn lle fel hyn. - Os nad oes gen ti groen o ledar gorau'r Eidal yna ... wel, tydi negesfyrddau fel Maes-e ddim i chdi.

Tyfa fyny'r babi!

(^^ Tynnu coes gyda llaw :winc: )

PostioPostiwyd: Gwe 25 Awst 2006 8:28 am
gan Gwahanglwyf Dros Grist
7ennyn a ddywedodd:Tydi Maes-e yn ddim gwahanol i unrhyw negesfwrdd agored arall ar y We. Mae yna lot o bryfocio a thynnu coes - ac mae'n hawdd camddehongli pethau mae eraill yn ei ddweud. Os wyt ti'n berson sydd yn hawdd i'w bechu, mi ddylia chdi ystyried yn ddwys os ydi o'n syniad da i chdi hongian o gwmpas mewn lle fel hyn. - Os nad oes gen ti groen o ledar gorau'r Eidal yna ... wel, tydi negesfyrddau fel Maes-e ddim i chdi.

Tyfa fyny'r babi!

(^^ Tynnu coes gyda llaw :winc: )


Cweit.

PostioPostiwyd: Gwe 25 Awst 2006 9:10 am
gan Gwen
*Maeswyr*

A dwi'n cytuno efo Manon. Pan ddechreuais i ddod yma, ro'n i'n darllen pob edefyn, ond rwan dwi'n tueddu i osgoi bron iawn pob un sy'n ymwneud â naill ai cerddoriaeth neu wleidyddiaeth (dwi'n darllen rhai Dyfodol yr Iaith, fodd bynnag). Ond dydi hi byth yn gyfnod da iawn i'r maes pan fydd y Blwch Tywod yn ddistaw.

PostioPostiwyd: Gwe 25 Awst 2006 9:25 am
gan HBK25
Cytunaf fod llawer o ddefnyddwyr Maes-e yn tynnu coes ac yn bod yn brofoclyd er mwyn cael ymateb - ond dydi hynna ynddo'i hun ddim yn ddrwg o beth. Pan mae pobl yn iselhau eu hunain i srahau maeswyr eraill yn bersonol, mae'n hynna'n croesi'r ffin rhwng hwyl a "bwlio".

Dwi'n disgwyl i bobl anghytuno hefo'n safbwyntiau (yn enwedig ar wleidyddiaeth - gan bod y Maes yn llawn o lefties CYI :crechwen: :winc: ), a dwi' ceisio peidiop cymeryd unrhywbeth yn bersonol.

Neges diflas arall gan HBK. Ceisiaf bod yn fwy diddorol rhywbryd yn y dyfodol agos. :crechwen:

PostioPostiwyd: Gwe 25 Awst 2006 10:08 am
gan nicdafis
Mae hyn yn bwnc sy wedi ei drafod sawl gwaith, ond mae hefyd yn un sy'n werth dod yn ôl ato fe o bryd i'w gilydd. Mae'n hawdd iawn i'r rhai ohonon ni sy'n teimlo'n eitha cartrefol ar yr hen faes anghofio sut mae hi i fod yn aelod newydd.

Dw i ddim yn sôn am y pethau cas yn unig, chwaith. Mae tuedd i rai sgyrsiau llenwi â jôcs mewnol sy'n iawn i bawb sy'n eu deall, ond yn tueddu dieithrio'r rhai sy ddim.

Mae 7ennyn yn iawn, dyw hyn ddim yn wahanol i beth sy'n digwydd ar negesfyrddau eraill, ond dyw e ddim cweit yn wir i ddweud bod maes-e yn union yr un peth â bob bwrdd: does dim bwrdd arall Cymraeg sy hanner mor fishi â'r maes. Os dw i ddim yn gallu ymdopi â ryff an tymbl Metafilter alla i ymuno â Fark, Plastic, neu un o'r miloedd o fyrddau Saesneg eraill. Os dw i ddim yn gallu ffeindio fy lle ar maes-e, rhaid i mi naill ai dechrau cymuned newydd fy hun (hawdd i ddweud, ond ddim i neud) neu beidio bod yn aelod cymuned Gymraeg ar-lein.

Dydy hynny ddim yn golygu mod i'n meddwl bod angen newidiadau sylfaenol yn y ffordd mae maes-e yn cael ei redeg, neu bod rhaid i bawb bod yn neisneis i'w gilydd trwy'r amser, ond bod hi'n bwysig sylweddoli beth yw effaith ein geiriau ar y bobl go iawn sy'n eu darllen.

PostioPostiwyd: Gwe 25 Awst 2006 10:54 am
gan Hogyn o Rachub
Fi ydio'n meddwl dydi hyn ddim yn newydd i Maes E, hyd yn oed? Ers cyn co' dw i'n cofio gwahanol bobl a bandiau yn cael eu slagio off yn y seiad Cerddoriaeth, a dani gyd yn gwybod be ddigwyddodd i'r adran wleidyddiaeth am ychydig fisoedd...

PostioPostiwyd: Gwe 25 Awst 2006 12:25 pm
gan garynysmon
Gwen a ddywedodd:*Maeswyr*

A dwi'n cytuno efo Manon. Pan ddechreuais i ddod yma, ro'n i'n darllen pob edefyn, ond rwan dwi'n tueddu i osgoi bron iawn pob un sy'n ymwneud â naill ai cerddoriaeth neu wleidyddiaeth (dwi'n darllen rhai Dyfodol yr Iaith, fodd bynnag). Ond dydi hi byth yn gyfnod da iawn i'r maes pan fydd y Blwch Tywod yn ddistaw.


ia, dwi'n cytuno. Fyddai ond yn ymateb yn yr edefynnau Chwaraeon ac ambell un Gwleidyddiath. Sgen i ddim awydd mynd draw i'r SRG oherwydd er mod i'n casau Hip Hop a ballu fyswn i'n dod o'na yn waed i gyd oherywdd mod i'm yn licio bandiau digon 'ymylol' neu rwbath :winc:

PostioPostiwyd: Gwe 25 Awst 2006 1:06 pm
gan Macsen
Dyle chi aelodau newydd (o Medi 2003 ymlaen) wybod eich lle! Ni oedd aelodau oes aur Maes-E, pan oedd pob neges yn cael ei ymchwilio megis traethawd gradd a pob gwenoglun fel gwasgariad heulwen ar wyneb llyn darluniadol...