sion_llanclan a ddywedodd:1. Y blwch tywod i bodoli - Efallai, dwi wedi camddeall a wedi cael yr enw anghywir. Ond, yn syml (i rhai sydd ddim wedi clywed am y blwch tywod), fforwm ydi o lle fedrai bobol ffraeo yn lle ffraeo ynghanol pynciau eraill yn digwilydd.
Ti wedi camddeall, yn llwyr. Gweler sylw uchod. Mae Blwch Tywod yn fwy slac ar ran bod yn "weddus", efallai, ac ar ran bod yn "berthnasol" yn aml, ond dyw e ddim yn lle i bobl ffraeo.
sion_llanclan a ddywedodd:2. Stopio Maeswyr sydd yn 'bwlio' Maeswyr eraill (yn enwedig rhai newydd).
Gyda phob parch i ti a dy chwyldro, dyna fy job i, a job y cymedrolwyr eraill. Os ti'n gweld rhywun yn cael ei fwlio, defnyddia'r botwm "Adrodd" i ddod â hyn at sylw y tîm cymedroli a byddan ni'n sorto fe mas.
Os wnei di ddim, ond yn lle hynny peilio mewn yn dy het Che, byddi di'n gwaethygu y sefyllfa.
sion_llanclan a ddywedodd:3. Cosbi rhai sydd yn gyrru negeseuon di-bwynt
Eto, defnydder y botwm Adrodd a bydd negeseuon di-bwynt yn diflannu.
sion_llanclan a ddywedodd:Jon Bon Jela a ddywedodd:Chwyldro? Yn erbyn pwy yn gwmws?
Pobol sydd yn gyrru negeseuon di-bwynt fel chdi.
Eto, gyda phob parch, mae negeseuon ymosodol fel hyn yn creu lot mwy o broblemau nag ydyn nhw'n datrus. Os wyt ti'n meddwl bod unrhywun yn euog o bostio rwtsh ar y maes, wedyn mae gyda ti sawl opsiwn:
1. Defnyddio'r botwm Adrodd.
2. Sgwennu yn breifat ata i neu'r cymedrolwr perthnasol (edrych ar y dudalen flaen os ti ddim yn siwr pwy yw hwn/hon).
3. Anwybyddu fe.
Ond paid, paid, paid wneud beth wnes ti uchod, a gwaethygu'r sefyllfa gan ymosod ar y person "euog". Mae hyn yn creu mwy o waith i'r cymedrolwyr, ac yn tynnu'r sgwrs yn bellach oddi ar y rheils.
Mae postio lluniau ti wedi ffeindio ar weinydd rhywun arall hefyd yn torri
canllawiau maes-e.
Y peth mwya chwyldroadol elli di neud yw dechrau gwefan dy hunan, wrth gwrs. Beth sy'n dy stopio di?