Tudalen 1 o 1

Pwnc wedi'i ddileu

PostioPostiwyd: Iau 14 Medi 2006 10:22 am
gan pogon_szczec
Pam gafodd y pwnc newydd a anfonais i'r maes ei ddileu.

A yw son am Gymry hiliol yn dabw ar y maes :?:

Os felly, pam nad yw son am Saeson hiliol yn dabw hefyd :?:

Re: Pwnc wedi'i ddileu

PostioPostiwyd: Iau 14 Medi 2006 10:24 am
gan huwwaters
pogon_szczec a ddywedodd:Pam gafodd y pwnc newydd a anfonais i'r maes ei ddileu.

A yw son am Gymry hiliol yn dabw ar y maes :?:

Os felly, pam nad yw son am Saeson hiliol yn dabw hefyd :?:


Ma sôn am Saeson hiliol yn digwydd o fewn trafodaeth ar maes-e. Os tisio sôn am Gymry hiliol pam ddim ei wneud ar y negefwrdd arall na?

Ma fel clwed rhywun yn mynd ymlaen am ei mam/fam ar date, pan tisio bod yn clwed am y nhw.

Ble bynnag ti'n cychwyn y peth, gorffenna fo yn yr un lle.

Re: Pwnc wedi'i ddileu

PostioPostiwyd: Iau 14 Medi 2006 10:35 am
gan pogon_szczec
huwwaters a ddywedodd:
pogon_szczec a ddywedodd:Pam gafodd y pwnc newydd a anfonais i'r maes ei ddileu.

A yw son am Gymry hiliol yn dabw ar y maes :?:

Os felly, pam nad yw son am Saeson hiliol yn dabw hefyd :?:


Ma sôn am Saeson hiliol yn digwydd o fewn trafodaeth ar maes-e. Os tisio sôn am Gymry hiliol pam ddim ei wneud ar y negefwrdd arall na?



Ond pam llai ar y negesfwrdd yma.

Mae'n fwy perthnasol.

Mae GT yn meddwl am ryw reswm bod Saeson yn hiliol yn wreddfol, ond nid yw Cymry byth yn hiliol.

Mae cred fel 'na yn hiliol.

Pam nad allwn drafod hyn yma :?:

PostioPostiwyd: Iau 14 Medi 2006 10:48 am
gan Mr Gasyth
Faswn i'n tybio Pogon mai'r boblem oedd i ti gychwyn y drafodaeth gyda ymosodiad o hiliaeth ar GT.

PostioPostiwyd: Iau 14 Medi 2006 10:50 am
gan huwwaters
Pam na wnest di gychwyn edefyn yn trafod y pwnc yma mewn cyd destun cyffredinol yn lle trio cael upper hand ar GT, pan dwyt ti ddim yn cytuno a fo rwle arall?

Pam fod GT yn darged yma, pan mae o'n lleisio ei farn, a dwi'n siwr bod o leiaf un arall yn cytuno a fo?

PostioPostiwyd: Iau 14 Medi 2006 11:13 am
gan Barbarella
pogon_szczec a ddywedodd:Pam gafodd y pwnc newydd a anfonais i'r maes ei ddileu.


Mae'r drafodaeth wreiddiol wedi'i dileu.

Gweler, ymysg eraill, <a href="viewtopic.php?t=10155">canllawiau</a> 1(a), 1(d), 1(g), ac 1(h).

Cyn dadlau ymhellach, mae'n werth i ti hefyd nodi canllawiau 1(c) a 5(a)-(d), gan gofio dy fod ar Gerdyn Melyn yn barod.