Tra dwi ar maes-e, mae IE yn cadw atal y safle rhag lawrlwytho Active-X. Yn ol 'Help', mae hwn yn active-x sydd heb 'valid digital signature'. Pam fod y maes yn trio lawrlwytho acitve-x? Oes angen active-x? A mae'n neud swn annoying pob tro mae'r neges yn dod lan.
Geraint a ddywedodd:Tra dwi ar maes-e, mae IE yn cadw atal y safle rhag lawrlwytho Active-X.
Dwi'n credu fod yr hysbyseb Cysill yna mewn fformat Flash (drwg iawn Fe alli di anwybyddu y neges yna am nawr. Os ydi Nic am newid yr hysbyseb i GIF mae yna ddigon o feddalwedd i newid SWF i GIF animeiddiedig.
Dwi'n meddwl bod yr hysbyseb Cysill yn gyfrifol am atal gweddill y dudalen rhag dangos yn fy mhorwr i (ie6 ). Mae hyn wedi digwydd deirgwaith heno, a'r hysbyseb Cysill oedd ar y top bob tro.