Wedi gweld llawer o edeifion yn diweddar gyda theitlau di-ystyr, sy'n golygu bod rhaid i rhywun agor yr edefyn er mwyn cael gwybod beth yw ei bwnc. Mae'n helpu i bawb 'sech chi'n lunio teitl sy'n rhoi syniad clir o beth sy yn yr edefyn, ac sy hefyd yn debyg i ganu cloch gyda rhywun sy wedi'i ddarllen o'r blaen ond sy ddim yn cofio'r teitlau.
Tra mod i wrthi gwyno, dyn ni'n gweld mwy o enghreifftiau o "edefyn un linc" hefyd, lle mae rhywun yn gludo dolen (fel arfer o wefan y BBC, neu un o'r papurau Seisnig) a ddim yn boddran rhoi unrhyw sylwadau i ddechrau trafodaeth.
Diogrwydd digywilydd, gyfeillion.