Tudalen 1 o 1

Pwnc wedi cael ei ddileu

PostioPostiwyd: Gwe 01 Rhag 2006 1:22 pm
gan Matt
Cwestiwn bach sydyn - nes i ddecrau pwnc ddoe am achos llys Llewelyn Winabego ac yn gofyn barn y maes am y stori a dyfodol y band. Dyma, yn fy marn i, un o'r storiau mwyaf ynglyn a'r SRG am oes, yn enwedig oherwydd gan fod Owain Wright o Rheinallt H Rowlands a gafodd ei ladd. Oes yna rheswn pam fod y pwnc wedi cael ei ddileu?

PostioPostiwyd: Gwe 01 Rhag 2006 1:28 pm
gan Jeni Wine
Swn i'n deud am nad ydi'r barnwr wedi gwneud dedfrydiad eto ac o'r herwydd ei fod o'n dal yn achos sensitif.

PostioPostiwyd: Gwe 01 Rhag 2006 1:31 pm
gan Geraint
Dio ddim fel son am ser roc o Loegr neu America - mae yna bobl ar maes-e yn nabod y bobl sy'n cael eu effeithio.

Re: Pwnc wedi cael ei ddileu

PostioPostiwyd: Gwe 01 Rhag 2006 1:38 pm
gan Jeni Wine
Matt a ddywedodd:Dyma, yn fy marn i, un o'r storiau mwyaf ynglyn a'r SRG am oes, yn enwedig oherwydd gan fod Owain Wright o Rheinallt H Rowlands a gafodd ei ladd. Oes yna rheswn pam fod y pwnc wedi cael ei ddileu?


A dydi o ddim yn stori ynglyn a'r SRG.

PostioPostiwyd: Gwe 01 Rhag 2006 2:36 pm
gan nicdafis
O <a href="http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_6160000/newsid_6160700/6160733.stm">adroddiad y BBC</a>:
Cafodd yr achos ei ohirio tan Ragfyr 22 tra bod adroddiadau yn cael eu paratoi.


Tan hynny o leia, nid yw'n addas i ni drafod hyn ar y maes. Nid fi wnaeth ddileu'r edefyn dan sylw, ond dw i'n cytuno 100% â'r penderfyniad.

PostioPostiwyd: Gwe 01 Rhag 2006 4:16 pm
gan ceribethlem
nicdafis a ddywedodd:O <a href="http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_6160000/newsid_6160700/6160733.stm">adroddiad y BBC</a>:
Cafodd yr achos ei ohirio tan Ragfyr 22 tra bod adroddiadau yn cael eu paratoi.


Tan hynny o leia, nid yw'n addas i ni drafod hyn ar y maes. Nid fi wnaeth ddileu'r edefyn dan sylw, ond dw i'n cytuno 100% â'r penderfyniad.
Nid 110%? Fi'n siwr alle ti gytuno mwy os oedd awydd gyda ti :winc:

PostioPostiwyd: Gwe 01 Rhag 2006 4:31 pm
gan huwwaters
ceribethlem a ddywedodd:
nicdafis a ddywedodd:O <a href="http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_6160000/newsid_6160700/6160733.stm">adroddiad y BBC</a>:
Cafodd yr achos ei ohirio tan Ragfyr 22 tra bod adroddiadau yn cael eu paratoi.


Tan hynny o leia, nid yw'n addas i ni drafod hyn ar y maes. Nid fi wnaeth ddileu'r edefyn dan sylw, ond dw i'n cytuno 100% â'r penderfyniad.
Nid 110%? Fi'n siwr alle ti gytuno mwy os oedd awydd gyda ti :winc:


RHAID BOD YN FWY UCHELGEISIOL!!!!!!!!!

PostioPostiwyd: Gwe 01 Rhag 2006 4:52 pm
gan Mihangel Macintosh
Nes i ddileu yr edefyn gan nad yw fforwm gyhoeddus yn le addas i drafod yr achos hyd nes bod adroddiadau'r llys wedi ei paratoi.

Allwch chi plis atal rhag trafod y pwnc hyd nes Rhagfyr yr 22ail os gwelwch chi'n dda?