Ella mai fy ngwybodaeth dechnegol i sydd i'w feio yma, ond oes posib riffresho tudalen Maes-E yn otomatig ar ôl chydig funudau, fel rhai gwefanau e-bost? Oes rhywle yn fy nghyfrifiadur i lle galla i ddewis hyn, neu ai rhywbeth yng ngôd y wefan fysa fo?
Tydio ddim wir yn angenrheidiol, jysd fy meddwl i sy'n crwydro...
(be' fysa chi'n ddefnyddio fel "to refresh" yn Gymraeg p'run bynnag?)