gan Selador » Sad 03 Maw 2007 11:43 pm
Mae Maes-e yn hanfodol i'r rheini ohonom sydd a diddordeb mewn cerddoriaeth gymraeg. Dwi'n gwbod bod gwefanau eraill yn hysbysebu gigs ac ati, ond i fama fydda i a rhan fwya o bobol dwi'n nabod yn mynd er mwyn cael gweld lle mae gigs yn cael ei cynnal.
Nid oes nunlle gwell i gael gwared o densiwn chwaith, dwi'n meddwl y baswn i'n berson lot mwy blin os na byswn i'n cal rhoi abiws i Dai Dom Da bob hyn a hyn, chwara teg iddo fo.
Maes-e - drwy gicio a brathu. (nadw dwi ddim yn dy ffansio di Dai, trio cyfleu bod dadleuon a trafodaethau o fri yn digwydd yng nghannol yr holl gaffaffl ma ydwi)
Os ti di cal digon, ella sati'n medru gwerthu y wefan i gwgl, Mr Dafis! Mansiwr fodo werth ffeifar.
Just one more sucker on the vine