Hoe bach i maes-e.com?

Polisïau a moesgarwch a lle i nodi unrhyw broblemau technegol
Rheolau’r seiat
Polisïau a moesgarwch a lle i nodi unrhyw broblemau technegol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan nicdafis » Gwe 02 Maw 2007 12:25 pm

Rhys Llwyd a ddywedodd:Dwi'n meddwl y byddai ei gau lawr am rai wythnosau a'i ail agor yn barod ar gyfer y run-up i etholiadau'r Cynulliad yn syniad campus.

Gwnaiff les i ti, i fi, i bawb


Dyw hyn ddim yn syniad drwg o gwbl. Gawn ni weld.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Rhodri Nwdls » Gwe 02 Maw 2007 12:50 pm

Mi fwynheais i'r brêc yn 2005! Gennai lot i neud dros y mis nesa, felly neith o siwtio fi i'r dim!

Mae bron yn amhosib cychwyn negesfwrdd ar wahan i maes-e am fod y dynfa i siarad a thrafod efo cynulleidfa mor fawr a maes e yn rhy gryf.

Dyw fforwm Pictiwrs heb weithio am sawl rheswm ond mae'r rhain yn brif rai :

1) di'r system ddim patsh ar system phpBB, sy'n rhoi pobol off (gan gynnwys fi)

2) diffyg postio gan graidd o gyfrannwyr i fywiogi'r lle (da ni gyd ar y maes yn hapus braf!)

ond yn bennaf...

3) mae na drafodaeth yr union yr un peth yn mynd mlaen yn y seiat ffilm, teledu a radio - hefo posibiliad llawer gwell o gael ymateb i'ch cofnod chi.

Dwi am gau'r fforwm yno dwi'n meddwl a throi gwefan Pictiwrs nôl mewn i flog aml-gyfrannol.

Os ti isio annog fforymau eraill, efallai y dylet ti gau rhai seiadau penodol? Bydd rhywun bownd o gychwyn fforwm newydd wedyn. Efallai dylid cael fforwm wleidyddiaeth Gymraeg ar wahân. Mae sawl un wedi cychwyn, ond cwympo am ryw reswm neu'i gilydd.

Dwi ddim yn deud y dylet ti gau seiad ffilm jest achos mod i isio pobol i ddod draw i Pictiwrs! Dwi am ei gau beth bynnag. Ond mae hyn yn ffactor pam nad oes fforymau eraill yn y marn i.

Mae maes-e yn cyfro rhan fwyaf o bynciau trafod (heblaw efallai ar gyfer dysgwyr) felly dydi pobol ddim am fodloni ar faes trafod llai, sy'n ddealladwy.

Hefyd, da ni'n gymuned reit fach yma ar-lein (o'i gymharu) felly mae'n annodd cynnal cymunedau amrywiol bywiog. Ond mae lle i ragor o gymunedau am fod rhai edeifion yn rhedeg i'r tudalennau o fewn diwrnod sy'n ei gneud yn amhosib eu darllen. Mae na rwbeth i'w ddweud dros fforwm chydig yn 'arafach'.
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan Rhys » Gwe 02 Maw 2007 3:30 pm

Licio'r syniad o gau rhai seiadau. Dewis y rhai mwyf poblogaidd.

Byddai cau'r seiat gwleidyddiaeth rhwng rwan a'r etholiad yn masterstroke :winc:

A gwenud yr un peth gyda sawl seiat pob yn un. Meddwl am y peth fel torri ceinciau ifanc o blanhigyn i'w hail-blannu fel planigion newydd.

Os chi ddim yn gallu gwynebu dechrau bwrdd eich hun, gallwch ddefnyddio gwasanaeth http://www.yabbers.com (fel dwi wedi wneud gyda http://www.sgwrs.net). Gallwch osod poeth yn ei le mewn awr.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Rhodri Nwdls » Gwe 02 Maw 2007 3:48 pm

Oes na unrhyw system bwrdd trafod sy'n rhagori ar phpBB erbyn hyn? Mae o yn dangos ei oed yndydi. Dwi heb ddod ar draws unrhywbeth sy'n syfrdanol o wahanol, rhaid cyfadddef.

Mae http://www.informe.com yn gwneud fforymau am ddim. Dim opsiwn Cymraeg fodd bynnag - efallai fopd posib anfon cyfieithiad Tîm Maes-e atyn nhw ddo?
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Re: Hoe bach i maes-e.com?

Postiogan Cardi Bach » Gwe 02 Maw 2007 4:27 pm

Gwen a ddywedodd:
nicdafis a ddywedodd:
gronw a ddywedodd:
Get over yourself, love. It's only a fucking messageboard.

yn Saesneg? shocking.


Oedd gweddill y neges yn Gymraeg, ond mae rhan fwya o'r bobl sy'n sgwennu i gwyno eu bod nhw cael eu gorthrymu yn defnyddio Saesneg i gario bwrdwn eu cwyn. Mae'n fel traddodiad. Helpu'r dysgwr fath o beth.


Meddwl eu bod nhw'n bod yn ffraeth maen nhw, ac wrth gwrs, dydi'r Cymry ddim yn meddwl fod posib bod yn ffraeth yn Gymraeg (gw. bron pob enghraifft o gyfranwyr yn trio bod yn ffraeth ar maes-e). :rolio:


Yn wir.

Look at you. Aren't you the clever one!

:winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan sbwriel » Gwe 02 Maw 2007 5:31 pm

beth am ei gau tan y diwrnod ar ol shutdown day
Rhithffurf defnyddiwr
sbwriel
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 425
Ymunwyd: Iau 07 Tach 2002 1:19 pm

Postiogan Macsen » Gwe 02 Maw 2007 10:08 pm

Roedd fy fforwm drafod i'n mynd yn dda iawn diolch yn fawr cyn i Dr Gwion Larsen anghofio talu'i filiau! ;)

Y rheswm dwi'n meddwl mai dim ond un prif negesfwrdd sydd yw, yn syml, nad oes gymaint a hynny o bobol yn defnyddio'r we drwy'r Gymraeg. Mae'n haws cael popeth yn yr un lle nag wedi ei wasgaru dros dau neu dri negesfwrdd, a mae'n ddigon bach fel bod na deimlad o gymuned...

Fyddwn i'n siomedig pe bai Maes-E ar gau dros y mis cyn yr etholiad. Allai'm penderfynu pwy i bledleisio drosto ar fy mhen fy hun!

Get over yourself, love. It's only a fucking messageboard.

Anodd dyfalu pwy nath sgwennu hwn tydi! :rolio:
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Hedd Gwynfor » Gwe 02 Maw 2007 10:37 pm

Macsen a ddywedodd:Y rheswm dwi'n meddwl mai dim ond un prif negesfwrdd sydd yw, yn syml, nad oes gymaint a hynny o bobol yn defnyddio'r we drwy'r Gymraeg.


Fi'n cytuno. Mae llwyth o Gymry Cymraeg yn gweld y rhyngrwyd fel rhywbeth Saesneg. Mae gan y rhan fwyaf o Gymry Cymraeg ifanc gyfrif MySpace neu Bebo, ond prin iawn yw'r rhai sydd hyd yn oed wedi clywed am faes-e. Dwi ddim yn credu fod lot o bwynt cychwyn llwyth o fforymau trafod newydd trwy gyfrwng y Gymraeg gyda neb yn eu defnyddio. Beth sydd angen gwneud ydy hyrwyddo maes-e yn ddi-ddiwedd, cynyddu'r aelodaeth yn ddramatig nes bod pobl yn dod i arfer defnyddio'r Gymraeg ar y rhyngrwyd (normaleiddio'r Gymraeg ar y we :? ), ac wedyn bydd spin-offs yn digwydd yn naturiol!

Ond ie, fel ma' pawb arall yn dweud, dy wefan di yw hwn - gwna beth ti'n teimlo sydd ore. :D
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Postiogan Geraint » Gwe 02 Maw 2007 10:42 pm

Dwi'n cytuno efo Macsen ac Hedd, gan fod cyn lleied o fobl yn cyfrannu (ac mae'r niferoedd wedi lleihau yn ddiweddar) mae angen trio atgyfnerthu y pbol sy'n cyfrannu at trafodaethau, nid eu rhannu mewn i wahanol safloedd. Mewn undod mae nerth! Oh, a dwi'n meddwl fod pawb sy'n dweud na fyddent yn colli y maes mewn denial :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan Dai dom da » Gwe 02 Maw 2007 11:23 pm

Bydde ddim ots da fi os bydde fe off am bach chwaith, dwi di bod arno hwn lot gormod yn ddiweddar. Sens.
Rhithffurf defnyddiwr
Dai dom da
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3036
Ymunwyd: Gwe 05 Maw 2004 11:21 am
Lleoliad: Blaenffos / Caerfyrddin

NôlNesaf

Dychwelyd i Defnyddio maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 12 gwestai

cron