Hoe bach i maes-e.com?

Polisïau a moesgarwch a lle i nodi unrhyw broblemau technegol
Rheolau’r seiat
Polisïau a moesgarwch a lle i nodi unrhyw broblemau technegol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Hoe bach i maes-e.com?

Postiogan nicdafis » Gwe 02 Maw 2007 11:15 am

Dyma ddarn o neges ces i neithiwr:

Get over yourself, love. It's only a fucking messageboard.


Cytuno 100%. Dyna'n union beth yw e. Nid fi oedd eisiau bod yn berchennog ar yr unig ffycin negesfwrdd sydd yn Gymraeg, ond gan fod y bobl sy ddim yn hoffi maes-e yn rhy ddiog i gystadlu gyda fe, dyna ble ydyn ni. Dw i'n gorfod darllen negeseuon fel hyn, gan taw fi yw'r ynfytyn sy'n darparu'r gwasanaeth yma.

Beth am gau maes-e i lawr am sbel bach, neu'n gyfan gwbl, a rhoi siawns i bobl fel hyn sefydlu eu cymunedau eu hunain?

Faint o amser fyddech chi moyn? Cymerodd hi llai nag wythnos i mi sefydlu maes-e. Fyddai hynny yn ddigon i chi?

Byddai cau'r maes i lawr am sbelen hefyd yn rhoi cyfle i fi trwsio'r sustem hysbysebu.

Trafodwch, da chi.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Llefenni » Gwe 02 Maw 2007 11:25 am

Wel Nic, ti sy fo'r bys ar y botwm.... :)

Bydde'n rhoi siawns i rhai ohonno ni gael y byyd na gollo'n ni yn 2004 nôl :(

Dwi'n credu bydde' fel y switchoff enwog yn 2005 - and gwylia, bydd rhan fwya o bawb yn dilyn ti i Morfablog eniwe...!
I'm Brian Fantana.
Rhithffurf defnyddiwr
Llefenni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1658
Ymunwyd: Maw 16 Maw 2004 2:35 pm
Lleoliad: Gwêl Y Stadiwm, Rhif 9

Postiogan Wierdo » Gwe 02 Maw 2007 11:37 am

Bethbynnag wyt ti'n meddwl sydd orau.

Ar y llaw arall, sgin i ddim syniad be wnai..dwi'n siwr fod gin i ffrindiau yn rhywle, ond dwi ddim cweit yn cofio lle roish i nw....
Dim fi nath, ci drws nesa laddodd y gath, ma'r ci na'n NYTS!!!

Wierdoflog | Llunia'|Wenglish Wierdo
Rhithffurf defnyddiwr
Wierdo
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2740
Ymunwyd: Llun 16 Meh 2003 8:33 pm
Lleoliad: Aberystwyth / Dyffryn Nantlle

Postiogan Mr Gasyth » Gwe 02 Maw 2007 11:48 am

Mae'n bechod fod rhaid i di roi fyny efo twats sydd yn difetha pethau i bawb Nic. Dy wefan di ydi hi, wgna be lici di de. Mi fyddai yna golled yn bendant, one lla base'n neis cael bywyd yn ol hefyd a mae fy nghariad wedi dweud y bydd yn fy ngadael os dwi'n codi'n uwch na'n safle presennol yn nhabl saddos maes-e.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan sian » Gwe 02 Maw 2007 11:51 am

Dw i'n cydymdeimlo â ti, Nic, ac yn gwbod shwt ti'n teimlo ond mae 'na le eithriadol o bwysig i maes-e - yn enwedig nawr yn yr wythnosau cyn Etholiadau'r Cynulliad - os gallith pawb gadw'u testosterôn dan reolaeth!

(A dw i wedi cael help ein tecis preswyl ar nifer o dermau technegol bore 'ma)

Ond ti sydd i benderfynu....
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Hoe bach i maes-e.com?

Postiogan gronw » Gwe 02 Maw 2007 11:58 am

Get over yourself, love. It's only a fucking messageboard.

yn Saesneg? shocking.
Rhithffurf defnyddiwr
gronw
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1397
Ymunwyd: Mer 03 Rhag 2003 7:12 pm

Postiogan nicdafis » Gwe 02 Maw 2007 12:04 pm

Diolch bobl. Flin 'da fi am y tôn hunan-dosturol uchod - dylech chi fod wedi gweld y fersiynau cyn-rhagolwg ;-)

Mae hyn yn digwydd o bryd i'w gilydd, yn enwedig pan bydd pethau eraill yn mynd ymlaen yn fy mywyd "arall", fel y maen nhw ar hyn o bryd. Dw i'n colli amynedd gyda phethau pitw (fel y cwyn gan y boi uchod), gor-ymateb, eisiau rhoi'r cyfan i'r neilltu a pheidio gwastraffu fy amser. Dw i'n gwybod bod cefnogaeth ma's 'na gan y rhan helaeth o aelodau maes-e, a dw i ddim yn anghytuno (yn y bôn) gyda'r bobl sy'n dweud bod angen lle ar y we sy'n llai "parchus" na'r maes: beth dw i'n anghytuno gyda fe yw'r awgrymiad bod rhaid i maes-e bod yn bopeth i bawb. It's only a fucking messageboard, love.

Os ai'r maes oddi ar lein yn ddi-rybudd yn y dyddiau nesa, bydd yn ymwneud â'r broblem gyda'r hysbysebion.

Wedi dweud hynny, byddwn i wrth fy modd 'sai rhywun yn dechrau negesfwrdd/cymuned arall. Dw i wedi cael llond bol o bobl sy'n cwyno am y lle 'ma ond sy ddim yn fodlon cynnig dim byd yn ei le. Os nad yw maes-e yn eich plesio, dechreuwch fwrdd newydd. Cewch chi hysbyseb am ddim fan hyn, unwaith mae'r blydi pethau yn gweithio 'to.

Daeth CD newydd Van der Graaf Generator yn y post y bore 'ma, felly dyw pethau ddim yn ddu i gyd. ;-)
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Rhys Llwyd » Gwe 02 Maw 2007 12:16 pm

Dwi'n meddwl y byddai ei gau lawr am rai wythnosau a'i ail agor yn barod ar gyfer y run-up i etholiadau'r Cynulliad yn syniad campus.

Gwnaiff les i ti, i fi, i bawb
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Hoe bach i maes-e.com?

Postiogan nicdafis » Gwe 02 Maw 2007 12:19 pm

gronw a ddywedodd:
Get over yourself, love. It's only a fucking messageboard.

yn Saesneg? shocking.


Oedd gweddill y neges yn Gymraeg, ond mae rhan fwya o'r bobl sy'n sgwennu i gwyno eu bod nhw cael eu gorthrymu yn defnyddio Saesneg i gario bwrdwn eu cwyn. Mae'n fel traddodiad. Helpu'r dysgwr fath o beth.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Re: Hoe bach i maes-e.com?

Postiogan Gwen » Gwe 02 Maw 2007 12:24 pm

nicdafis a ddywedodd:
gronw a ddywedodd:
Get over yourself, love. It's only a fucking messageboard.

yn Saesneg? shocking.


Oedd gweddill y neges yn Gymraeg, ond mae rhan fwya o'r bobl sy'n sgwennu i gwyno eu bod nhw cael eu gorthrymu yn defnyddio Saesneg i gario bwrdwn eu cwyn. Mae'n fel traddodiad. Helpu'r dysgwr fath o beth.


Meddwl eu bod nhw'n bod yn ffraeth maen nhw, ac wrth gwrs, dydi'r Cymry ddim yn meddwl fod posib bod yn ffraeth yn Gymraeg (gw. bron pob enghraifft o gyfranwyr yn trio bod yn ffraeth ar maes-e). :rolio:
Mwy no thân mewn eithinen.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1825
Ymunwyd: Llun 14 Ebr 2003 2:40 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Nesaf

Dychwelyd i Defnyddio maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 10 gwestai

cron