Get over yourself, love. It's only a fucking messageboard.
Cytuno 100%. Dyna'n union beth yw e. Nid fi oedd eisiau bod yn berchennog ar yr unig ffycin negesfwrdd sydd yn Gymraeg, ond gan fod y bobl sy ddim yn hoffi maes-e yn rhy ddiog i gystadlu gyda fe, dyna ble ydyn ni. Dw i'n gorfod darllen negeseuon fel hyn, gan taw fi yw'r ynfytyn sy'n darparu'r gwasanaeth yma.
Beth am gau maes-e i lawr am sbel bach, neu'n gyfan gwbl, a rhoi siawns i bobl fel hyn sefydlu eu cymunedau eu hunain?
Faint o amser fyddech chi moyn? Cymerodd hi llai nag wythnos i mi sefydlu maes-e. Fyddai hynny yn ddigon i chi?
Byddai cau'r maes i lawr am sbelen hefyd yn rhoi cyfle i fi trwsio'r sustem hysbysebu.
Trafodwch, da chi.