dwi'n chwilio am edefyn oedd ar 'ffenest siop pete' tua chwe mis yn ol - ond o fynd i chwilota, gweld mai dim ond i ddechra chwefror eleni sy wedi'i storio! pam, tybad? a hefyd, oes modd dod o hyd i edefynnau coll?!
nicdafis a ddywedodd:Nid seiat trafod yw hwn. Bydd "awto-docio" yn gweithio yma, sy'n golygu os nad oes neb wedi cyfrannu at edefyn am fwy na mis, bydd e'n cael ei ddileu yn awtomatig.
Sori am hynny. Mae rheswm tu ôl i'r peth, fel gwelwch chi os chi'n estyn y delwedd o "ffenest siop" - mae'n wneud mynegai y seiat yn gliriach, ac yn haws i'w sganio.
Os oes trafodaeth mewn edefyn yna sy'n debyg i fod o werth parhaol, peth gorau yw defnyddio'r botwm Adrodd i'w fflagio, a gofyn iddo gael ei symud.