edefynnau coll
Postiwyd:
Maw 13 Maw 2007 10:15 am
gan Tracsiwt Gwyrdd
dwi'n chwilio am edefyn oedd ar 'ffenest siop pete' tua chwe mis yn ol - ond o fynd i chwilota, gweld mai dim ond i ddechra chwefror eleni sy wedi'i storio! pam, tybad? a hefyd, oes modd dod o hyd i edefynnau coll?!
Postiwyd:
Maw 13 Maw 2007 1:03 pm
gan nicdafis
Sori am hynny. Mae rheswm tu ôl i'r peth, fel gwelwch chi os chi'n estyn y delwedd o "ffenest siop" - mae'n wneud mynegai y seiat yn gliriach, ac yn haws i'w sganio.
Os oes trafodaeth mewn edefyn yna sy'n debyg i fod o werth parhaol, peth gorau yw defnyddio'r botwm Adrodd i'w fflagio, a gofyn iddo gael ei symud.