Neges i ddarpar aelodau yw hon; na fydd yn effeithio ar unrhyw un sydd â chyfrif cyfredol.
Dw i newydd wahardd pobl rhag agor cyfrif newydd ar maes-e sy'n defnyddio cyfeiriad ebost hotmail.co.uk gan fod Martin Llewelyn Williams, sbamiwr o fri, yn defnyddio'r wasanaeth yna i greu ei gyfrifau sbamllyd. Os bydd Martin yn defnyddio sustem arall o webost, byddaf yn gwahardd hwnna hefyd.
Dw i ddim yn gallu meddwl o unrhyw ffordd arall o stopio'r pest 'ma rhag gwastraffu amser fi a gweddill y tîm cymedroli.
Os wyt ti'n nabod rhywun sy am ymuno â'r maes ond sy'n methu, diolch i Martin, cysylltwch â fi yn uniongyrchol a wna i greu'r cyfrif gan law.
Diolch am fod yn amyneddgar.