Tudalen 1 o 1

Pam dydy *@hotmail.co.uk ddim yn gweithio?

PostioPostiwyd: Sad 24 Maw 2007 8:35 pm
gan nicdafis
Neges i ddarpar aelodau yw hon; na fydd yn effeithio ar unrhyw un sydd â chyfrif cyfredol.

Dw i newydd wahardd pobl rhag agor cyfrif newydd ar maes-e sy'n defnyddio cyfeiriad ebost hotmail.co.uk gan fod Martin Llewelyn Williams, sbamiwr o fri, yn defnyddio'r wasanaeth yna i greu ei gyfrifau sbamllyd. Os bydd Martin yn defnyddio sustem arall o webost, byddaf yn gwahardd hwnna hefyd.

Dw i ddim yn gallu meddwl o unrhyw ffordd arall o stopio'r pest 'ma rhag gwastraffu amser fi a gweddill y tîm cymedroli.

Os wyt ti'n nabod rhywun sy am ymuno â'r maes ond sy'n methu, diolch i Martin, cysylltwch â fi yn uniongyrchol a wna i greu'r cyfrif gan law.

Diolch am fod yn amyneddgar.

PostioPostiwyd: Llun 26 Maw 2007 8:35 am
gan ceribethlem
Oes yna unrhyw seicolegwyr (proffesiynol neu amatur) ar y maes? Bydde fe'n ddiddorol ffeindio mas os oes cyflwr yn gwneud i bobl megis Martin i ddod nol droeon a thro i falu cachu a sbamio, er ei fod yn ymwybodol o'r ffaith bod dim croeso iddo fe, nac ychwaith diddordeb gan unrhywun yn yr hyn sydd gyda fe i ddweud.

PostioPostiwyd: Llun 26 Maw 2007 9:09 am
gan CORRACH
Dwi newydd newid y cyfiriad ebost yn fy nghyfrif i hotmail.co.uk a rol bod y .com, dwi'n cymryd fod hynny am fod yn iawn?
(spam ydi'r rheswm dwi'n defnyddio cyfrif ebost newydd hefyd :crio: )

Re: Pam dydy *@hotmail.co.uk ddim yn gweithio?

PostioPostiwyd: Llun 26 Maw 2007 11:11 am
gan nicdafis
nicdafis a ddywedodd:Neges i ddarpar aelodau yw hon; na fydd yn effeithio ar unrhyw un sydd â chyfrif cyfredol.


;-)

PostioPostiwyd: Llun 26 Maw 2007 11:58 am
gan Macsen
Onid oes modd i'r gweinyddwr wahardd geiriau penodol? Wedi ei greu i rwystro pobol rhag rhegi mae o mae'n debyg, ond byddai gwahardd rhai geiriau fel 'uchelgeisiol' a mwy nag un ebychiad '!!!!!' yn gallu atal MLlW rhag sbamio'r maes ymhellach.

PostioPostiwyd: Llun 26 Maw 2007 12:05 pm
gan Reufeistr
Pwy di'r boi ma ta?

PostioPostiwyd: Llun 26 Maw 2007 12:12 pm
gan sanddef
Macsen a ddywedodd:Onid oes modd i'r gweinyddwr wahardd geiriau penodol? Wedi ei greu i rwystro pobol rhag rhegi mae o mae'n debyg, ond byddai gwahardd rhai geiriau fel 'uchelgeisiol' a mwy nag un ebychiad '!!!!!' yn gallu atal MLlW rhag sbamio'r maes ymhellach.


Neu "Eisteddfod Lerpwl".

Rhyw ddydd, efallai yn y dyfodol agos, fe fydd rhywun yn creu system sy'n gallu adnabod steil ysgrifennu penodol unigolyn sydd wedi cael ei fflagio fel troliwr ac yn gallu ei wahardd yn awtomatig o fwrdd negeseuon.

PostioPostiwyd: Llun 26 Maw 2007 1:48 pm
gan ceribethlem
sanddef a ddywedodd:
Macsen a ddywedodd:Onid oes modd i'r gweinyddwr wahardd geiriau penodol? Wedi ei greu i rwystro pobol rhag rhegi mae o mae'n debyg, ond byddai gwahardd rhai geiriau fel 'uchelgeisiol' a mwy nag un ebychiad '!!!!!' yn gallu atal MLlW rhag sbamio'r maes ymhellach.


Neu "Eisteddfod Lerpwl".

Rhyw ddydd, efallai yn y dyfodol agos, fe fydd rhywun yn creu system sy'n gallu adnabod steil ysgrifennu penodol unigolyn sydd wedi cael ei fflagio fel troliwr ac yn gallu ei wahardd yn awtomatig o fwrdd negeseuon.
MAE'N HAWDD ADNABOD STEIL YSGRIFENNU MARTIN LLYWELYN WILLIAMS!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!

PostioPostiwyd: Llun 26 Maw 2007 2:09 pm
gan nicdafis
O'r diwedd, esgus i fanio'r boi Bethlem 'na...

PostioPostiwyd: Llun 26 Maw 2007 2:10 pm
gan ceribethlem
nicdafis a ddywedodd:O'r diwedd, esgus i fanio'r boi Bethlem 'na...
:lol: