Tudalen 1 o 1

Sustem ebost mewnol

PostioPostiwyd: Maw 01 Mai 2007 7:57 am
gan nicdafis
Mae'n debyg bod gwall ar y sustem ebost mewnol - newydd gael neges i ddweud bod rhywun wedi trial cysylltu â fi trwy hyn ond heb gael ymateb (gan fy mod i heb dderbyn y neges).

Gadael y ty nawr, ond wna i edrych arno y prynhawn 'ma. Unrhyw un arall wedi cael problemau?

(Mae brith gof 'da fi am drafod hyn â Barbarella rhywbryd. Babs?)

PostioPostiwyd: Maw 01 Mai 2007 8:29 am
gan Barbarella
Mae'n gweithio'n iawn i fi!

Falle bod angen i bobl checio bod eu cyfeiriadau ebost yn gywir yn eu proffeiliau.

A chwilio ym mlwch sbam eu rhaglenni ebyst hefyd?

PostioPostiwyd: Iau 03 Mai 2007 5:32 pm
gan Hazel
Efallai oedd y person yn dileu ei neges ei hunan ar ôl ystyriaeth. Fyddech chi eto'n cael y nodyn? Dw i'n meddwl.

Hazel