Tudalen 1 o 1

Lle aeth yr Eda?

PostioPostiwyd: Mer 09 Mai 2007 7:55 pm
gan Gwil ap Tomos
Deg munud yn ol 'roedd yna eda am rhyw hogan yn sgwennu yn Saesneg lle dylia hi ddim ( yn ol yr awdur beth bynnag)

lle aeth hi?

Oes na Slobs Sleis (Heddlu Cudd) o gwmpas sy'n gelly neud hyn heb rhoi rheswm i ni y proles?

PostioPostiwyd: Mer 09 Mai 2007 8:07 pm
gan 7ennyn
Rhywbeth i'w wneud a hyn siwr o fod:
Canllawiau maes-e a ddywedodd:1 a. Dylid postio â pharch tuag at aelodau eraill y safle. Ni ddylid ymosod yn bersonol ar unrhyw aelod arall.


Ond dwi'n pledio'n euog i hyn:
... a ddywedodd:1 c. Peidiwch gweithredu fel "cymedrolwr y sedd cefn". Os welwch chi rywbeth sy'n torri un o'r canllawiau yma, croeso i chi dynnu sylw y cymedrolwyr perthnasol ato fe. Peidiwch â gwneud pethau'n waeth gan ymateb yn ffyrnig i aelodau sy'n torri'r rheolau.

:wps:

Ond dwi'n dal o'r farn bod awdur yr edefyn gwreiddiol yn ddwl.