gan Prysor » Mer 19 Rhag 2007 11:15 am
Dwi wedi codi hyn tua blwyddyn yn ôl - cyn yr edefyn yma, beth bynnag - a ges i ymatebion fel "pah! checkia dy cookies" a "newid i Firefox" etc.
Dim bwys faint o weithia o'n i'n deud fod safleoedd eraill yn gweithio'n iawn, y duedd oedd i dismissio fy sylwadau fel snag ar fy nghyfrifiadur i. Doedd neb yn fy nghoelio gan fod neb ar y pryd (neb welodd yr edefyn, beth bynnag) yn cael yr un broblem. Ymateb tebyg ges i gan Nic pan gysylltais efo fo ar ebost.
Dwi'n falch, o'r diwedd, fod eraill yn cael yr un broblem, er mwyn darbwyllo Nic i drio gneud rwbath amdano. Ond, deud y gwir, dwi'n cael yr argraff nad oes gan Nic yr amser (na'r mynadd?) bellach...
Fel ddudas i ar y pryd, mae'n amharu ar fy mwynhad o ddefnyddio Maes-e i'r fath raddau fel ei fod yn boen, a lot gormod o hasyl, i fynd arno. Ac o'r herwydd, prin dwi'n trafferthu i iwsio'r Maes. Os sylwith y cymedrolwyr ar fy stats, dwi wedi mynd o un o selogion mwyaf y maes i fod yn 'ddieithryn'.
Tydio ddim yn fy synnu o gwbwl pan da chi'n deud uchod fod "pethau wedi gwella rwan" ac "o na, mae o'n nôl run fath eto". Felna mae hi wedi bod ers tro - weithia mae o'n dod at ei hun am rhyw chydig funudau, cyn mynd yn ôl i'r un peth - cymeryd o leia munud (weithia mwy - dwi wedi teimio fo lawar gwaith) i lwytho tudalen gartref, a tudalennau eraill hefyd.
Weithiau tydi o ddim yn cyfathrebu efo'r cookies ar fy mheiriant a dwi'n gorfod ail-logio mewn. Ond o jecio'r cookies, mae nhw yno ar fy nghyfrifiadur o hyd. Felly pam fod maes-e yn methu cysylltu efo nhw? Be sy'n amharu ar y 'signal', fel tae...?
Mae'r broblem run fath efo IE 6, IE 7 a Firefox, a tydi byrddau trafod PHP eraill ddim yn dangos yr un broblem.
Beth bynnag 'fix' mae Nic wedi ei drio, dydio ddim yn gweithio, neu mae 'rhywun' neu 'rhywrai' yn 'ail-osod' y 'glitch' wedi i Nic ei sortio allan.
I fod yn onest, dwi wedi amau lawer gwaith fod y wefan yn cael ei hail-gyfeirio drwy server sbesial bransh, neu rwbath tebyg, er mwyn iddyn nhw gadw tabs ar y trafod 'cenedlaetholgar' a 'radical' sy'n digwydd yma.
Falle mod i'n hollol rong yn hynny o beth, wrth gwrs (dont panic!). Ond tydio ddim yn amhosib. Dim o bell ffordd.