Canllawiau maes-e

Polisïau a moesgarwch a lle i nodi unrhyw broblemau technegol
Rheolau’r seiat
Polisïau a moesgarwch a lle i nodi unrhyw broblemau technegol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Canllawiau maes-e

Postiogan Hedd Gwynfor » Maw 15 Ion 2008 11:37 pm

Canllawiau maes-e

Mae'r canllawiau yma wedi'u haddasu o'r rhai ar fforymau phpBB.com. Os oes unrhyw sylwadau/cwestiynau gyda chi ynglyn â chynnwys y canllawiau, mae dolen ar ôl bob pwynt yn mynd at drafodaeth ar y pwynt.

Canllawiau maes-e a ddywedodd:1 Postio Negeseuon

a. Dylid postio â pharch tuag at aelodau eraill y safle. Ni ddylid ymosod yn bersonol ar unrhyw aelod arall. Trafod...

b. Gofynnir i aelodau ddechrau edeifion newydd yn y seiat cywir. Dylid darllen disgrifiadau y seiadau cyn postio. Rhybuddir aelodau sy'n postio mewn seiadau anaddas yn gyson (gweler plismona isod). Trafod...

c. Peidiwch gweithredu fel "cymedrolwr y sedd cefn". Os welwch chi rywbeth sy'n torri un o'r canllawiau yma, croeso i chi dynnu sylw y cymedrolwyr perthnasol ato fe. Peidiwch â gwneud pethau'n waeth gan ymateb yn ffyrnig i aelodau sy'n torri'r rheolau. Trafod...

ch. Anelir y bwrdd hwn at gynulleidfa gyffredinol. Ni ddylid postio darluniau pornograffig, a dylai unrhyw ddolen at gynnwys "anweddus" gael ei nodi'n glir ("DDIM YN SAFF I'R GWEITHLE"). Trafod...

d. Atgoffir aelodau am y cyfraith ynglyn â hawlfraint ac enllib. Caiff unrhyw ddeunydd anghyfreithlon ei ddileu'n syth, a rhoddir rhybudd/gwaharddiad i'r rhai a'i bostiodd. Trafod...

dd. Dylid cofio nid yw "bandwidth" yn rhad ac am ddim. Gall postio lluniau oddi ar wefannau pobl eraill achosi problemau. Trafod...

e. Ar y cyfan, dylid cadw at "testun arferol" wrth bostio negeseuon. Hynny yw, peidiwch â gor-ddefnyddio gwenogluniau ( ;-) :wps: :rolio: ), ffontiau mawr a bychain a lliwiau gwahanol. Peidiwch defnyddio LLYTHRENNAU BRAS ("gweiddi") na gormod o farciau atalnodi (!!!), yn enwedig yn nheitlau edeifion. Trafod...

f. Cymerwch ofal gyda theitlau eich edefyn. Dylid osgoi pethau fel "Help!", "Gig gwych heno", a "Edrych ar hyn!!!" - cewch chi well ymateb drwy roi mwy o wybodaeth yn eich teitl. Enghreifftiau da: "Angen cyfieithiad am 'speed dating'"; "29.06.04 Ashokan a Frizbee, Neuadd Hendre"; "Chwarae Nethack ar-lein". Trafod...

ff. Byddwch yn ofalus wrth ddyfynnu o negeseuon pobl eraill. Peidiwch â dyfynnu llawn sgrîn o destun er mwyn cytuno ag un pwynt bach. Trafod...

g. Cofiwch darllen eich sylwadau cyn i chi eu postio. Ydyn nhw'n gwneud synnwyr? Ydych chi wedi camdeipio? A fydd eich neges yn ychwanegu at y sgwrs, neu at y swn? Trafod...

ng. Hysbysebu. Mae croeso i chi ddefnyddio maes-e i hybu eich gigs, digwyddiadau, CDs, llyfrau ac yn y blaen, ond peidiwch dechrau mwy nag un edefyn er mwyn "gwneud yn siwr bod pawb yn gweld". Bydd sbamwyr yn cael eu rhybuddio/gwahardd. Trafod...

h. Mae gan cymedrolwyr a gweinyddwyr maes-e yr hawl i olygu neu ddileu unrhyw neges am unrhyw reswm. Os ydy'ch neges wedi diflannu, mae'n debyg eich bod chi wedi torri un o'r rheolau yma. Dydy cwyno amdano ddim yn mynd i ddod â'ch neges yn ôl. Trafod...

i. Mae'r canllawiau uchod yn berthnasol i "negeseuon preifat" hefyd. Bydd aelodau sy'n camddefnyddio'r sustem negeseuon mewnol yn cael rhybudd ac, o bosib, yn colli'r hawl i ddefnyddio'r sustem honno. Trafod...


2. Llofnodion

a. Gellid cynnwys hyd at 255 llythyren/gofod mewn llofnod NEU un llun dim mwy na 60 picsel tal x 400 picsel o led. Dim lluniau wedi'u hanimeiddio. Trafod...

b. Dylid defnyddio maint ffont "arferol" neu "llai". Mae canllawiau uchod ynglyn â chynnwys ac ansawdd cofnodion yn berthnasol yma hefyd. Trafod...

c. Cewch ddefnyddio dolennau mewn llofnodion, o fewn y terfynau uchod. Caiff dolennau i safleoedd anweddus eu dileu. Trafod...


3. Rhithffurfiau

a. Cewch ddewis rhithffurf (S. "avatar") o'r orielau, neu ddefnyddio un personol (cofiwch y canllawiau uchod am gamddefnyddio bandwidth). Ni ddylai rhithffurfiau fod yn fwy na 80x80 picsel, 8kb o faint, na chael eu hanimeiddio. Ni ddylech ddefnyddio rhithffurf sy'n cael ei ddefnyddio gan aelod arall, os yn bosibl. Trafod...

b. Mae'r canllawiau uchod ynglyn â chynnwys ac ansawdd negeseuon yn berthnasol yma hefyd. Trafod...


4 Cyfrifon

a. Un aelod, un cyfrif. Peidiwch ag agor mwy nag un cyfrif. Os oes mwy nag un gyda chi nawr, cysylltwch ag un o'r gweinyddwyr, gan ddweud pa un dych chi am ei gadw. Trafod...

b. Peidiwch â chreu cyfrif mewn enw rhywun adnabyddus oni bai taw chi yw'r person hwnna. Trafod...

5 Plismona

a. Mae maes-e yn defnyddio sustem "3 thrawiad". Caiff defnyddwyr eu rhybuddio i fyny at dri tro o fewn cyfnod o dri mis. Am dorri'r rheolau am y pedwerydd tro, caiff y defnyddiwr ei wahardd am adeg rhwng wythnos a mis. Trafod...

b. Bydd dadlau gyda chymedrolwr sy wedi rhoi rhybudd i chi yn ennill rhybudd awtomatig newydd, a gwaharddiad dros dro, os bydd hynny eich pedwerydd rhybudd. Trafod...

c. Os dych chi'n meddwl eich bod chi wedi cael eich camdrin gan cymedrolwr, croeso i chi gysylltu ag un o'r gweinyddwyr. Os ydy'r gweinyddwr yn cytuno â chi, caiff y rhybudd ei godi. Yn aml iawn, bydd y gweinyddwyr yn trafod yr achos cyn wneud penderfyniad, felly bydd y penderfyniad hyn yn derfynol. Trafod...

ch. Rhoir gwaharddiad terfynol i unrhywun sy'n ceisio osgoi gwaharddiad dros dro, er enghraifft gan agor cyfrif o dan enw newydd, neu newid cyfeiriad IP. Trafod...

d. Mewn achosion difrifol iawn caiff cyfrifau eu cau yn ddi-rybudd ac yn derfynol. Gall hyn gynnwys bygwth aelodau arall, postio negeseuon milain, neu anwybyddu rhybuddion gan gymedrolwyr. Trafod...


Wedi diweddaru - 15/01/2008
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Dychwelyd i Defnyddio maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai

cron