Mae'r sustem o "Adrodd" negeseuon wedi newid tipyn bach. Fe welwch fod botwm "Adrodd" ar dop negeseuon pobl, fel hyn -
Os ydych chi'n gweld neges gan Faeswr arall sydd angen sylw y cymedrolwyr, gwasgwch y botwm yma, a rhowch ychydig o wybodaeth ynglyn â'ch cwyn. Bydd y cymedrolwyr neu gweinyddwyr wedyn yn delio gyda'r problem.
Defnyddiwch eich synnwyr cyffredin wrth ddefnyddio'r botwm hyn - mae ar gyfer negeseuon sy'n groes i ganllawiau'r Maes.
Os ydych chi'n creu adroddiadau maleisus, gwirion, neu di-sail, mae gan y cymedrolwyr y dewis o'ch cosbi.
Gobeithio bydd hyn yn hwyluso gwaith y cymedrolwyr trwy tynnu eu sylw yn gyflym at broblemau, a gwneud y Maes yn lle brafiach i bawb hefyd.
Cofiwch, y bwriad tu ôl i'r teclyn newydd yw i wneud cymedroli'r maes yn haws, ac i roi cyfle i bawb gyfrannu at hyn. Felly does dim pwynt gwneud adroddiad, a wedyn ymateb i'r un sylw. Os ydy'r cymedrolwr yn cytuno â ti ynglyn â'r adroddiad, bydd e/hi'n dileu'r sylw gwreiddiol, ond wedyn bydd rhaid dileu dy sylw di hefyd, a ti wedi creu mwy o waith i'r cymedrolwr.
Y cyfraniad pwysicaf gall unrhyw aelod wneud tuag at lleihau gwaith y cymedrolwyr yw peidio ymateb i sylwadau sy'n debyg i gael eu dileu.
addaswyd o negeseuon gan barbarella a Nic Dafis