Adroddiadau

Polisïau a moesgarwch a lle i nodi unrhyw broblemau technegol
Rheolau’r seiat
Polisïau a moesgarwch a lle i nodi unrhyw broblemau technegol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Adroddiadau

Postiogan Hedd Gwynfor » Sul 20 Ion 2008 12:40 am

Mae'r sustem o "Adrodd" negeseuon wedi newid tipyn bach. Fe welwch fod botwm "Adrodd" ar dop negeseuon pobl, fel hyn - Delwedd

Os ydych chi'n gweld neges gan Faeswr arall sydd angen sylw y cymedrolwyr, gwasgwch y botwm yma, a rhowch ychydig o wybodaeth ynglyn â'ch cwyn. Bydd y cymedrolwyr neu gweinyddwyr wedyn yn delio gyda'r problem.

Defnyddiwch eich synnwyr cyffredin wrth ddefnyddio'r botwm hyn - mae ar gyfer negeseuon sy'n groes i ganllawiau'r Maes.

Os ydych chi'n creu adroddiadau maleisus, gwirion, neu di-sail, mae gan y cymedrolwyr y dewis o'ch cosbi.

Gobeithio bydd hyn yn hwyluso gwaith y cymedrolwyr trwy tynnu eu sylw yn gyflym at broblemau, a gwneud y Maes yn lle brafiach i bawb hefyd. :D

Cofiwch, y bwriad tu ôl i'r teclyn newydd yw i wneud cymedroli'r maes yn haws, ac i roi cyfle i bawb gyfrannu at hyn. Felly does dim pwynt gwneud adroddiad, a wedyn ymateb i'r un sylw. Os ydy'r cymedrolwr yn cytuno â ti ynglyn â'r adroddiad, bydd e/hi'n dileu'r sylw gwreiddiol, ond wedyn bydd rhaid dileu dy sylw di hefyd, a ti wedi creu mwy o waith i'r cymedrolwr.

Y cyfraniad pwysicaf gall unrhyw aelod wneud tuag at lleihau gwaith y cymedrolwyr yw peidio ymateb i sylwadau sy'n debyg i gael eu dileu.

addaswyd o negeseuon gan barbarella a Nic Dafis
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Dychwelyd i Defnyddio maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron