Atodiadau

Polisïau a moesgarwch a lle i nodi unrhyw broblemau technegol
Rheolau’r seiat
Polisïau a moesgarwch a lle i nodi unrhyw broblemau technegol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Atodiadau

Postiogan Hedd Gwynfor » Sul 20 Ion 2008 11:30 am

Fe welwch fod gan y fersiwn newydd o faes-e, phpBB3, opsiwn newydd o fynylwytho atodiadau sydd i'w weld ar waelod y sgrin pan yn ysgrifennu neges. Dyma lun o'r adran creu atodiad (fel atodiad!)

atodiadau.png
Atodiadau
atodiadau.png (11.92 KiB) Dangoswyd 5742 o weithiau


Er mwyn fynylwytho atodiad, porwch am y ffeil perthnasol ac yna pwyswch ar ychwanegu ffeil. Er mwyn gosod yr atodiad yng nghanol y testun, pwyswch ar y blwch 'mewnosod' ar ol fynylwytho, ac bydd y code perthnasol e.e.

Cod: Dewis popeth
[attachment=0]atodiadau.png[/attachment]


yn ymddangos yn eich testun. Os mai llun yw'r atodiad (.png, .gif, .jpg ayb), fe fydd y llun yn ymddangos fel yr uchod. Os mai ffeil gwahanol yw'r atodiad, bydd yn ymddangos fel dolen.

Dim ond y terfyniadau canlynol sy'n cael eu derbyn ar hyn o bryd - gif, jpeg, jpg, png, tga, tif, tiff, pdf - h.y. lluniau a pdf. 256kb yw'r maint mwyaf y gall atodiad fod a dim ond un 1 atodiad i bob neges a 3 (gan bob defnyddiwr) i bob edefyn. I ddarganfod rhestr o'r atodiadau yr ydych wedi lanlwytho, ewch at eich Panel Rheoli Personol a pwyswch ar y ddolen “Rheoli atodiadau”.

Cofiwch eich bod yn cael arddangos luniau o wefannau eraill o hyd trwy gopio a gludo lleoliad y llun (e.e. http://gwefan.com/llun.jpg) i mewn i'r neges a'i osod mewn tagiau [img] fel hyn:

Cod: Dewis popeth
[img]http://gwefan.com/llun.jpg[/img]
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Atodiadau

Postiogan Al » Sul 20 Ion 2008 9:04 pm

Hedd Gwynfor a ddywedodd:Cofiwch eich bod yn cael arddangos luniau o wefannau eraill o hyd trwy gopio a gludo lleoliad y llun (e.e. http://gwefan.com/llun.jpg) i mewn i'r neges a'i osod mewn tagiau [img] fel hyn:

Cod: Dewis popeth
[img]http://gwefan.com/llun.jpg[/img]


di hynny ddim yn dwyn bandwidth y wefan ny?

Da ni ddim yn cal bai gan Mr Dafis am hynny?..

gyda llaw, mae'r peth dyfyniadau yn anghywir, angen newidd chydig o'r cod fel bod o yn deud 'Dywedodd....' ynlle "... Dywedodd".

Lle yn edrych lot gwell gyda llaw. cwl.
Al
 

Re: Atodiadau

Postiogan eusebio » Sul 20 Ion 2008 9:42 pm

Onid ddywedodd y ddylai ddweud? h.y. Hedd Gwynfor ddywedodd yn hytrach na Hedd Gwynfor Dywedodd ...?
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Re: Atodiadau

Postiogan Hedd Gwynfor » Sul 20 Ion 2008 10:09 pm

eusebio a ddywedodd:Onid ddywedodd y ddylai ddweud? h.y. Hedd Gwynfor ddywedodd yn hytrach na Hedd Gwynfor Dywedodd ...?


Ie, mae hwna'n un o'r pethau sydd angen newid. Y drefn yw'r broblem. Dylai ddarllen "Dywedodd Hedd Gwynfor" ond mae'n dilyn y drefn Saesneg. Dylai fod yn ddigon rhwydd newid!!

O ran yr atodiadau, nid yw maes-e yn defnyddio gweinydd Nic Dafis mwyach! :winc: Dyna pam ei fod wedi cymryd cymaint o amser dros y penwythnos, gan fod angen newid DNS y parth, symud yr holl gronfa ddata o weinydd Nic i'r Gweinydd newydd, ac yna gosod y fersiwn newydd o phpBB!
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Atodiadau

Postiogan eusebio » Sul 20 Ion 2008 10:16 pm

Does na'm ffordd o ychwanegu .avi nagoes? Fel 'embedded video' 'lly?
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Re: Atodiadau

Postiogan Tegwared ap Seion » Sul 20 Ion 2008 10:17 pm

Hedd Gwynfor a ddywedodd:O ran yr atodiadau, nid yw maes-e yn defnyddio gweinydd Nic Dafis mwyach! :winc: Dyna pam ei fod wedi cymryd cymaint o amser dros y penwythnos, gan fod angen newid DNS y parth, symud yr holl gronfa ddata o weinydd Nic i'r Gweinydd newydd, ac yna gosod y fersiwn newydd o phpBB!


Dwi'n meddwl mai at hot-lincio (gair cywir?) gan ddefnyddio bandwidth gwefannau eraill ma Al yn son?
Aelwyd yr Ynys
Clera - Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru

Sdwff ni a dim rhyw sothach ail-law Seisnig
Rhithffurf defnyddiwr
Tegwared ap Seion
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3443
Ymunwyd: Maw 22 Chw 2005 5:26 pm
Lleoliad: Môn

Re: Atodiadau

Postiogan Al » Sul 20 Ion 2008 10:25 pm

Tegwared ap Seion a ddywedodd:
Hedd Gwynfor a ddywedodd:O ran yr atodiadau, nid yw maes-e yn defnyddio gweinydd Nic Dafis mwyach! :winc: Dyna pam ei fod wedi cymryd cymaint o amser dros y penwythnos, gan fod angen newid DNS y parth, symud yr holl gronfa ddata o weinydd Nic i'r Gweinydd newydd, ac yna gosod y fersiwn newydd o phpBB!


Dwi'n meddwl mai at hot-lincio (gair cywir?) gan ddefnyddio bandwidth gwefannau eraill ma Al yn son?


aye. hwna.
Al
 

Re: Atodiadau

Postiogan nicdafis » Llun 21 Ion 2008 12:04 am

Mae lot o resymau dros beidio hot-linco, ar wahan i'r ffaith dy fod di'n dwyn bandwidth rhywun arall. Yn bennaf, does dim modd 'da ti wybod na fydd y person sy'n biau y llun yn newid y llun i rywbeth arall.

Nawr bod phpBB3 yn cynnwys atodiadau, dw i ddim yn gweld pam byddai rhaid i unrhyw un wneud hyn. Gweld llun ti'n lico, copio fe i dy gyfrifiadur, lanlwytho fe i maes-e. Pawb yn hapus.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Re: Atodiadau

Postiogan Prysor » Llun 28 Ion 2008 7:08 pm

Pam fod o'n deud 'Heb ei ddangos' o dan yr atodiad pan mae'n ymddangos yn y post?
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: Atodiadau

Postiogan Hedd Gwynfor » Llun 28 Ion 2008 7:21 pm

Prysor a ddywedodd:Pam fod o'n deud 'Heb ei ddangos' o dan yr atodiad pan mae'n ymddangos yn y post?


Dwi ddim yn siwr i fod yn onest. Efallai ei fod yn cymryd peth amser i'r data dreiddio trwodd? Os weli di'r atodiad uchod yn y neges 1af, mae'[n nodi fod hon wedi ei ddangos 200+ o weithiau, felly amwni fod y drefn yn gweithio.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Nesaf

Dychwelyd i Defnyddio maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron