Er mwyn fynylwytho atodiad, porwch am y ffeil perthnasol ac yna pwyswch ar ychwanegu ffeil. Er mwyn gosod yr atodiad yng nghanol y testun, pwyswch ar y blwch 'mewnosod' ar ol fynylwytho, ac bydd y code perthnasol e.e.
- Cod: Dewis popeth
[attachment=0]atodiadau.png[/attachment]
yn ymddangos yn eich testun. Os mai llun yw'r atodiad (.png, .gif, .jpg ayb), fe fydd y llun yn ymddangos fel yr uchod. Os mai ffeil gwahanol yw'r atodiad, bydd yn ymddangos fel dolen.
Dim ond y terfyniadau canlynol sy'n cael eu derbyn ar hyn o bryd - gif, jpeg, jpg, png, tga, tif, tiff, pdf - h.y. lluniau a pdf. 256kb yw'r maint mwyaf y gall atodiad fod a dim ond un 1 atodiad i bob neges a 3 (gan bob defnyddiwr) i bob edefyn. I ddarganfod rhestr o'r atodiadau yr ydych wedi lanlwytho, ewch at eich Panel Rheoli Personol a pwyswch ar y ddolen “Rheoli atodiadau”.
Cofiwch eich bod yn cael arddangos luniau o wefannau eraill o hyd trwy gopio a gludo lleoliad y llun (e.e. http://gwefan.com/llun.jpg) i mewn i'r neges a'i osod mewn tagiau [img] fel hyn:
- Cod: Dewis popeth
[img]http://gwefan.com/llun.jpg[/img]