Panel Rheoli Personol

Polisïau a moesgarwch a lle i nodi unrhyw broblemau technegol
Rheolau’r seiat
Polisïau a moesgarwch a lle i nodi unrhyw broblemau technegol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Panel Rheoli Personol

Postiogan Hedd Gwynfor » Sul 20 Ion 2008 12:03 pm

Mae modd gwneud llawer iawn o newidiadau yn awr trwy'r Panel Rheoli Personol. Ar ol i chi fewngofnodi, fe welwch y ddolen ar ochr dop chwith y dudalen. Dyma rhai pethau y gellir eu gwneud yno;

Trosolwg

Tanysgrifiadau a Nodau Tudalen

Mae Nodi Tudalen yn phpBB3 yn debyg iawn i Nodi Tudalen trwy ddefnyddio unrhyw we-borwr. Nid ydych yn derbyn hysbysiad fod neges newydd, ond mae lleoliad y Seiat neu Bwnc wedi ei arbed ar eich cyfer i ddod nol iddi yn hwyrach. Wrth danysgrifio i Seiat neu Bwnc ar y llaw arall, byddwch yn derbyn hysbysiad bod neges newydd yno. Bydd y modd yr ydych yn cael eich hysbysu yn ddibynnol ar yr hyn yr ydych yn dewis yn y Panel Rheoli.

Er mwyn tanysgrifio i seiat neu bwnc, pwyswch ar “Tanysgrifio i seiat/bwnc” ar waelod y dudalen wrth ymweld a'r Seiat/pwnc. Ewch at y Panel Rheoli Personol, a pwyswch ar y ddolen “Trefnu tanysgrifiadau” i ddad-danysgrifio?

Beth yw pwrpwas y bwtwm “Cadw”?

Pan yr ydych yn ysgrifennu neges, fe sylwch fod yna 3 opsiwn yn awr sef 'Cadw', 'Rhagolwg' a 'Anfon'. Mae'r bwtwm 'Cadw' yn eich caniatau i arbed neges neu ddarn o neges er mwyn ei bostio rhyw dro arall. Er mwyn gweld darn sydd wedi arbed, ewch at y Panel Rheoli Personol a dewiswch “Trefnu drafftiau”.

Rheoli atodiadau

Gwybodaeth yma.

Proffeil

Yma bydd modd i chi olygu eich proffeil (h.y. yr manylion yr ydych yn rhannu gyda aelodau eraill), Olygu eich llofnod (y neges neu lun sy'n ymddangos ar waelod eich negeseuon), Olygu eich Rhithffurff (y llun bach sy'n ymddangos ger eich negeseuon) a Golygu dewisiadau’r cyfrif (newid cymfeiriad ebost a chyfrinair).

Dewisiadau’r negesfwrdd

Yma mae modd i chi wneud newidiadau i'r Bwrdd a fydd yn cael eu harbed ac yn ymddangos y tro nesaf y byddwch yn mewngofnodi. Mae modd dewis os ydych am dderbyn negeseuon preifat a/neu ebost gan ddefnyddwyr eraill, Cuddio eich statws arlein a newid amser a iaith y bwrdd. Mae hefyd modd i chi wneud newidiadau i'r ffordd yr ydych yn postio negeseuon a gweld negeseuon.

Negeseuon preifat

Danfon a Derbyn Negeseuon Preifat. Gallwch hefyd wneud newidiadau i reolau a dewisiadau negeseuon preifat, yn ogystal a chreu ffolderi penodol.

Cylchoedd

Yma cewch chi ymaelodi gyda'r Cylchoedd Defnyddwyr amrywiol. Pan fyddwch wedi cael eich derbyn, byddwch yn gweld y fforwm perthnaol yn ymddangos ar waelod y dudalen ar ol mewngofnodi. O ydych chi'n gymerolwr Cylch, bydd modd i chi reoli'r cylch yma hefyd.

Cyfeillion a Gelynion

Gwybodaeth yma.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Panel Rheoli Personol

Postiogan asuka » Llun 08 Rhag 2008 1:57 am

sori os yw hyn 'di cael ei ofyn yn barod, ond... ffordd mae cael BBCode i weithio mewn "llofnod"?

wi'n treio creu llofnod ac ynddo ddolen at 'mlog i 'slawer dydd, ond 'sdim ots pa mor amal y bydda' i'n gwneud yn siwr bod y blwch "analluogi BBCode" 'na'n wag, cyn gynted ag y gwasga' i'r botwm "rhagolwg" neu "anfon" dyna'r tic bach yn ôl yn atal y BBCode rhag gwneud ei hud, ac yn peri i'm llofnod edrych yn sili iawn - llawn cromfachau sgwar :(
cỳ cỳ alw rangers!
Rhithffurf defnyddiwr
asuka
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 93
Ymunwyd: Maw 27 Chw 2007 3:02 pm
Lleoliad: ohio, u.d.a.


Dychwelyd i Defnyddio maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 12 gwestai

cron