Cyfeillion a Gelynion

Polisïau a moesgarwch a lle i nodi unrhyw broblemau technegol
Rheolau’r seiat
Polisïau a moesgarwch a lle i nodi unrhyw broblemau technegol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Cyfeillion a Gelynion

Postiogan nicdafis » Sad 26 Ion 2008 11:37 am

Ar ôl arbrofi gyda fe, dw i'n cytuno â Prysor.

(Ymm, arbrofi gyda'r peth Ffrind/Gelyn, nid gyda Prysor ei hunan. Fyddai hynny jyst yn rong.)

Am un peth, dyw e ddim yn anwybyddu edeifion sy'n cael eu dechrau gan dy elynion, felly mae pethau di-werth dal yn clytro lan y tudalen "Negeseuon newydd". A gan bod cymaint o bobl yn mynnu ymateb i droliau/twpsynod, mae sgyrsiau yn mynd yn anealladwy yn glou iawn. Oedd yn eitha doniol pan gâth dau berson dw i'n eu hanwybyddu sgwrs ffyrnig (dw i'n cymryd) ac yn hir, ond mae gweddill yr edefyn jyst yn nonsens wedyn. Gwell i mi osgoi'r seiadau trol-llyd.

I fod yn fwy positif, oes modd gweld tudalen o sylwadau diweddar dy Ffrindiau yn unig? Ydw i wedi colli rhywbeth?
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Re: Cyfeillion a Gelynion

Postiogan Prysor » Sad 26 Ion 2008 11:55 am

nicdafis a ddywedodd:Ar ôl arbrofi gyda fe, dw i'n cytuno â Prysor.

(Ymm, arbrofi gyda'r peth Ffrind/Gelyn, nid gyda Prysor ei hunan. Fyddai hynny jyst yn rong.)



Duw, be sy'n rong efo chydig o fochyndra yn enw gwyddoniaeth? :seiclops:
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: Cyfeillion a Gelynion

Postiogan Kez » Sad 26 Ion 2008 4:16 pm

Efalla bo fi'n colli rhywbeth biti'r peth 'ma - 'cyfeillion a gelynion' . Wela i mo'i bwynt e o gwbwl. Os nag iti'n moyn darllen rhywbeth, ti ddim yn ei ddarllen e ac os nag wt ti isha mynd i mewn i rywpath fel 'ffydd a chrefydd', ti ddim yn ffycin mynd i mewn iddo fe - full stop. Pawb at y peth y bo ontefe. :seiclops:

Wi'n drychid ar bopith - ma' na ffycin berlau i gal gin ambell i 'idiot' ar y maes 'ma ac os wt ti'n cyfyngu dy hunan ar dy ddewisiadau - ti'n colli uffach o laff ne' agoriad llygad. Paid a chau'r llenni ar neb yn y teip hwn o fforwm a byw yn dy fyd bach dy hunan - wi'm yn gweid y dysgid di ryw lawer ond cer i weld fel mae eraill yn byw a meddwl; dyw pawb ddim yr un fath a diolch byth am hynny.

Gwell dechra cylch arall lle ma pawb yn cal lladd ar ei gilydd. - 'Talwrn y Maeswyr'. - ti'n cal gwahodd rhywun i mewn ac os gwnan nhw dderbyn - biff baff bo amdeni - dim rheolau'r maes-e yn bodoli, fe gei di 'one liners' a sarhau fel y mynnych; Ma'r Cymry yn rhai da am gega a chwmpo mas - fi siwr 'sa'n boblogaidd iawn.
Golygwyd diwethaf gan Kez ar Sad 26 Ion 2008 5:08 pm, golygwyd 1 waith i gyd.
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: Cyfeillion a Gelynion

Postiogan Prysor » Sad 26 Ion 2008 4:56 pm

Kez a ddywedodd:Ma'r Cymry yn rhai da am gega a chwmpo mas - fi siwr 'sa'n boblogaidd iawn.


Na fysa ddim, y c**t! :winc:

:D
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: Cyfeillion a Gelynion

Postiogan Kez » Sad 26 Ion 2008 5:03 pm

Prysor a ddywedodd:
Kez a ddywedodd:Ma'r Cymry yn rhai da am gega a chwmpo mas - fi siwr 'sa'n boblogaidd iawn.


Na fysa ddim, y c**t! :winc:

:D



Ti fydd y conta 'na i wadd i mewn os daw y dydd - y tw.t :winc:

:D
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: Cyfeillion a Gelynion

Postiogan nicdafis » Sad 26 Ion 2008 5:27 pm

Kez a ddywedodd:Gwell dechra cylch arall lle ma pawb yn cal lladd ar ei gilydd. - 'Talwrn y Maeswyr'. - ti'n cal gwahodd rhywun i mewn ac os gwnan nhw dderbyn - biff baff bo amdeni - dim rheolau'r maes-e yn bodoli, fe gei di 'one liners' a sarhau fel y mynnych; Ma'r Cymry yn rhai da am gega a chwmpo mas - fi siwr 'sa'n boblogaidd iawn.


Ond maen nhw'n lot well am ddweud beth dylai pobl eraill yn ei wneud, heb wneud dim byd eu hunain. Ces i 5 mlynedd o bobl dweud wrtha beth dylwn i wneud i wneud y wefan 'ma yn well, ond prin iawn bod yr un ohonyn nhw wedi mentro i gystadlu â maes-e.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Nôl

Dychwelyd i Defnyddio maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai

cron