Hedd Gwynfor a ddywedodd:ceribethlem a ddywedodd:'Na fe,. os wyt ti'n clicio arno fe a'i anwybyddu, fe gei di barhau i sgyrsio ag eraill heb fod yn ymwybodol o'r hyn mae'n ei ddweud.
Fi heb brofi hwn yn iawn i ddweud y gwir, felly byddwn i'n gwerthfawrogi eich sylwadau ar sut mae hwn yn gweithio yn ymarferol. O'r hyn wy'n ddeall, bydd cofnod yn dangos fod neges gan ddefnyddiwr sydd ar eich rhestr 'Gelynion' yn cael ei guddio, a bydd modd i chi glicio i'w weld os chi moyn, ond fi ddim yn siwr!
Yn gwmws, newydd brofi fe gyda'r edefyn 'ma. Mae sylwadau dy "elynion" yn ymddangos mewn dyfyniadau, ond fel arall ti'n gweld:
Ysgrifennwyd y neges hon gan [enw], sydd ar eich rhestr anwybyddu ar hyn o bryd. Dangos y neges hon.
Rhaid dweud, dw i ddim yn hoff iawn o'r geiriad "gelyn" - lot rhy gryf. Ond does gen i ddim dim byd well i gynnig.
Nid mhroblem i yw hi! Mwahahaha!