Ar ôl arbrofi gyda fe, dw i'n cytuno â Prysor.
(Ymm, arbrofi gyda'r peth Ffrind/Gelyn, nid gyda Prysor ei hunan. Fyddai hynny jyst yn rong.)
Am un peth, dyw e ddim yn anwybyddu edeifion sy'n cael eu dechrau gan dy elynion, felly mae pethau di-werth dal yn clytro lan y tudalen "Negeseuon newydd". A gan bod cymaint o bobl yn mynnu ymateb i droliau/twpsynod, mae sgyrsiau yn mynd yn anealladwy yn glou iawn. Oedd yn eitha doniol pan gâth dau berson dw i'n eu hanwybyddu sgwrs ffyrnig (dw i'n cymryd) ac yn hir, ond mae gweddill yr edefyn jyst yn nonsens wedyn. Gwell i mi osgoi'r seiadau trol-llyd.
I fod yn fwy positif, oes modd gweld tudalen o sylwadau diweddar dy Ffrindiau yn unig? Ydw i wedi colli rhywbeth?