Tudalen 1 o 9

Maes-e ar ei newydd wedd

PostioPostiwyd: Sul 20 Ion 2008 1:01 pm
gan Hedd Gwynfor
Fel i chi gyd wedi sylwi (gobeithio) mae maes-e wedi uwchraddio i phpBB3 dros y penwythnos. Dyw'r gwaith heb orffen o bell ffordd, a bydd tipyn mwy o ddatblygiadau yn ystod yr wythnosau nesaf. :D

Darllenwch y negeseuon newydd yma i weld pa nodweddion newydd sydd gan y maes, a byddai'n syniad i chi hefyd ddarllen y dudalen Cymorth i ddysgu mwy.

Os ydych chi'n gweld unrhyw broblemau ieithyddol (a dwi'n siwr bod tipyn) danfonwch neges breifat ataf i os gwelwch yn dda fel bod modd eu cywiro. Os ydych chi'n darganfod unrhyw wallau neu fygs, danfonwch neges breifat hefyd os gwelwch yn dda, ac mae croeos i chi eu nodi yma hefyd.

Fe wnewn ni'n gorau i ateb unrhyw gwestiwn, ond ni'n dysgu am y system newydd ar yr un pryd a chi cofiwch! :winc:

Re: Maes-e ar ei newydd wedd

PostioPostiwyd: Sul 20 Ion 2008 3:47 pm
gan nicdafis
Llongyfarchiadau i bawb sy wedi bod ati dros y Sul, a'r wythnosau diwetha, gweithio ar hyn. Mae popeth yn edrych yn fendigedig o fan hyn, a dw i'n edrych ymlaen at chwarae gyda'r teclynau newydd. Da iawn bois.

Re: Maes-e ar ei newydd wedd

PostioPostiwyd: Sul 20 Ion 2008 5:02 pm
gan Macsen
Neis iawn Hedd. Chwa o awyr iach. :)

Re: Maes-e ar ei newydd wedd

PostioPostiwyd: Sul 20 Ion 2008 5:26 pm
gan Mwnci Banana Brown
Da iawn bois, neis cal newid fel hyn. Ma rhaid bo chi di hala wthnose i gyfieithi'r holl stwff ma. Gwaith da.

Re: Maes-e ar ei newydd wedd

PostioPostiwyd: Sul 20 Ion 2008 5:42 pm
gan 7ennyn
:D Hyfryd iawn!

Un peth bach bach - dim ond ar y dudalen hafan mae dolen 'negeseuon newydd' yn ymddangos. Dwi'n siwr bod dolen 'negeseuon newydd' yn ymddangos ar bob tudalen hefo'r hen fersiwn.

Re: Maes-e ar ei newydd wedd

PostioPostiwyd: Sul 20 Ion 2008 8:38 pm
gan Chip
edrych yn gret, hoffi'r nodyn arlein ywchben llunie pawb, neud i'r peth teimlo llawer mwy fyw am rhyw reswm, falllai am fod lot o pobl arno ar y foment.

Re: Maes-e ar ei newydd wedd

PostioPostiwyd: Sul 20 Ion 2008 9:38 pm
gan eusebio
Lyfli 'chan :D

Re: Maes-e ar ei newydd wedd

PostioPostiwyd: Sul 20 Ion 2008 10:12 pm
gan Hedd Gwynfor
Aran a ddywedodd:Llongyfarchiadau mawr i Maredudd am y gwaith uwchraddio, a llongyfarchiadau mawr i Hedd am dderbyn sedd y capten... :D


Ac i Barbarella am yr holl waith wnaeth e gyda'r fersiwn prawf, y logo newydd, a lot fawr iawn o'r gwaith cyfieithu ar gyfer y ffeiliau iaith!!

Re: Maes-e ar ei newydd wedd

PostioPostiwyd: Llun 21 Ion 2008 4:24 am
gan Gwenci Ddrwg
Dwi'n caru'r edrychiad newydd (gwaith uffernol o dda pawb) ond mae'n well gen i weld delweddon defnyddiwr ar fy chwith, fel ym mhob man arall. Dim ond problem bach ydy hwn, wrth gwrs. A phwynt da i wrthwynebu hynny: dwi'n gallu llwytho'r wefan yn lai araf, roedd yr hen fersiwn yn cymryd oriau.

Re: Maes-e ar ei newydd wedd

PostioPostiwyd: Llun 21 Ion 2008 9:34 am
gan Mr Gasyth
Neis iawn wir, congrats i bwbw sydd weid bod yn gweithio arno!

Un peth - oes posib cael y rhithffurfiau etc yn ol i ochr chwith y sgrin mewn edefion - mae'n ei gwneud yn haws cysylltu'r neges a'r negeseuwr.