Tudalen 2 o 9

Re: Maes-e ar ei newydd wedd

PostioPostiwyd: Llun 21 Ion 2008 9:54 am
gan joni
Edrych yn lyfli ma bois bach. A ma fe'n llwytho lot yn gynt i fi nawr.

Re: Maes-e ar ei newydd wedd

PostioPostiwyd: Llun 21 Ion 2008 9:58 am
gan Reufeistr
Mr Gasyth a ddywedodd:Un peth - oes posib cael y rhithffurfiau etc yn ol i ochr chwith y sgrin mewn edefion - mae'n ei gwneud yn haws cysylltu'r neges a'r negeseuwr.


Ai, ategaf.

Re: Maes-e ar ei newydd wedd

PostioPostiwyd: Llun 21 Ion 2008 11:09 am
gan Hogyn o Rachub
O mam bach, dw i ofn. Ond mae'n edrych yn wych. Edrych mlaen!

:ing:

(sori, nath y rhithffurf honno ddwyn fy sylw yn syth!)

Re: Maes-e ar ei newydd wedd

PostioPostiwyd: Llun 21 Ion 2008 1:31 pm
gan Norman
Y maes yn edrych yn dda wedi'w foderneiddio !

Un cwestiwn bach, sydd o bosib wedi'w ateb yn rwla arall. Tra mewn seiat, be mae seren fach goch yn feddwl wrth enw'r pynciau ?

Re: Maes-e ar ei newydd wedd

PostioPostiwyd: Llun 21 Ion 2008 1:51 pm
gan Madrwyddygryf
Mae'n rhaid dweud, mae cynllun a graffeg newydd y maes yn lyfli. :P

Re: Maes-e ar ei newydd wedd

PostioPostiwyd: Llun 21 Ion 2008 2:03 pm
gan Griff-Waunfach
Edrych yn neis iawn Hedd, hoff iawn o'r gwedd newydd!

Re: Maes-e ar ei newydd wedd

PostioPostiwyd: Llun 21 Ion 2008 2:26 pm
gan krustysnaks
Haws i'w ddefnyddio, edrych yn well, cyflymach - gret :D

(Heblaw am y dolenni ar ben y dudalen sydd braidd yn flêr)

Re: Maes-e ar ei newydd wedd

PostioPostiwyd: Llun 21 Ion 2008 3:09 pm
gan sian
Dw i'n gorfod mewngofnodi'n aml heddi - Ydw i'n gwneud rhywbeth o'i le?
Rhywun arall yn cael yr un drafferth?

Re: Maes-e ar ei newydd wedd

PostioPostiwyd: Llun 21 Ion 2008 3:17 pm
gan eusebio
'Di'r "negeseuon newydd" ddim mor amlwg ... e.e. yn yr hen fersiwn roedden nhw'n oren os nad oeddwn i wedi eu darllen - does 'na'm gwahaniaeth yn y fersiwn yma ar ôl i mi ymweld â'r edefyn.

Re: Maes-e ar ei newydd wedd

PostioPostiwyd: Llun 21 Ion 2008 3:22 pm
gan Tegwared ap Seion
Ma'r sgwar oren, hwnnw ti'n glicio i fynd i'r neges gynta ti heb weld, dal yna...