Tudalen 3 o 9

Re: Maes-e ar ei newydd wedd

PostioPostiwyd: Llun 21 Ion 2008 3:28 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Mae'n siwr bod rhywun arall wedi codi hyn, ond mae trefn y "dywedodd" ac enw'r defnyddiwr yn anghywir. Ar hyn o bryd mae'n dweud, e.e. Cynyr dywedodd...

Re: Maes-e ar ei newydd wedd

PostioPostiwyd: Llun 21 Ion 2008 3:41 pm
gan eusebio
Tegwared ap Seion a ddywedodd:Ma'r sgwar oren, hwnnw ti'n glicio i fynd i'r neges gynta ti heb weld, dal yna...


ond mae o'n tiny - a tydi'r icon arall na (rhyw fath o ddogfen) ddim yn newid lliw :|

Re: Maes-e ar ei newydd wedd

PostioPostiwyd: Llun 21 Ion 2008 3:42 pm
gan eusebio
eusebio a ddywedodd:
Tegwared ap Seion a ddywedodd:Ma'r sgwar oren, hwnnw ti'n glicio i fynd i'r neges gynta ti heb weld, dal yna...


ond mae o'n tiny - a tydi'r icon arall na (rhyw fath o ddogfen) ddim yn newid lliw :|



oh, dal dy ddŵr ... mae o'n newid lliw wedi'r cwbwl ... as you were ...

:ffeit:

Re: Maes-e ar ei newydd wedd

PostioPostiwyd: Llun 21 Ion 2008 3:56 pm
gan Prysor
ydi'r rheol dim cynnwys mwy na 3 dyfyniad mewn un yn un newydd?

ydach chi'n meddwl y dylia chi edrych eto arni?

Re: Maes-e ar ei newydd wedd

PostioPostiwyd: Llun 21 Ion 2008 4:02 pm
gan eusebio
tri atodiad , nid tri dyfyniad

Re: Maes-e ar ei newydd wedd

PostioPostiwyd: Llun 21 Ion 2008 4:07 pm
gan sian
Hyd y gwela i, dydi'r botymau "negeseuon newydd" etc ddim yn ymddangos ar waelod y dudalen - dim ond y top.
Fyddai hi'n braf eu cael nhw ar y gwaelod hefyd fel o'r blaen.

Re: Maes-e ar ei newydd wedd

PostioPostiwyd: Llun 21 Ion 2008 4:21 pm
gan Prysor
eusebio a ddywedodd:tri atodiad , nid tri dyfyniad


Tyd allan o'r cae swej 'na wir dduw, eusebio. :winc:

Tri dyfyniad dwi'n feddwl. H.y. os ti'n dyfynu rhywun sy'n dyfynu rhywun sy'n dyfynu rhywun...a.y.b.

Re: Maes-e ar ei newydd wedd

PostioPostiwyd: Llun 21 Ion 2008 4:24 pm
gan eusebio
Prysor a ddywedodd:
eusebio a ddywedodd:tri atodiad , nid tri dyfyniad


Tyd allan o'r cae swej 'na wir dduw, eusebio. :winc:

Tri dyfyniad dwi'n feddwl. H.y. os ti'n dyfynu rhywun sy'n dyfynu rhywun sy'n dyfynu rhywun...a.y.b.


Nes i ddim gweld hwnna ... :wps:

Re: Maes-e ar ei newydd wedd

PostioPostiwyd: Llun 21 Ion 2008 4:30 pm
gan krustysnaks
Dwi'n meddwl mai rheol eithaf arferol ar gyfer cwrteisi negesfwrdd yw'r rheol 3 dyfyniad.

Pam bod angen ailfeddwl? Does bosib bod angen dyfynnu cymaint â hynny o bobl ar unwaith i oleuo'r darllenwyr yn ddigonol i weld beth yw pwynt y neges?

Re: Maes-e ar ei newydd wedd

PostioPostiwyd: Llun 21 Ion 2008 4:34 pm
gan eusebio
eusebio a ddywedodd:
Prysor a ddywedodd:
eusebio a ddywedodd:tri atodiad , nid tri dyfyniad


Tyd allan o'r cae swej 'na wir dduw, eusebio. :winc:

Tri dyfyniad dwi'n feddwl. H.y. os ti'n dyfynu rhywun sy'n dyfynu rhywun sy'n dyfynu rhywun...a.y.b.


Nes i ddim gweld hwnna ... :wps:


Mae hwn yn dyfynu deirgwaith ... ydi o'n ormod?