Tudalen 4 o 9

Re: Maes-e ar ei newydd wedd

PostioPostiwyd: Llun 21 Ion 2008 5:14 pm
gan Boibrychan
eusebio a ddywedodd:
Tegwared ap Seion a ddywedodd:Ma'r sgwar oren, hwnnw ti'n glicio i fynd i'r neges gynta ti heb weld, dal yna...

ond mae o'n tiny - a tydi'r icon arall na (rhyw fath o ddogfen) ddim yn newid lliw :|

Wel ar ol i chi ddod a fe i'n sylw falle ddefnyddiau fe nawr i safio lot o amser! Heb sylwi arno erioed o'r blaen! :wps:

Edrych yn neis, angen dod i arfer ag e ond ma'ch gwaith caled chi wedi bod yn werth e bois!

Re: Maes-e ar ei newydd wedd

PostioPostiwyd: Llun 21 Ion 2008 9:27 pm
gan Dylan
swish iawn bois, gwd thing

mae'n llwytho'n gyflym iawn ac yn edrych yn lanach rhywsut. Os un peth yna gwell fyddai gen i gael enwau a manylion y cyfranwyr ar y chwith, ond chwaeth bersonol sy'n siwr o ddiflannu gydag amser wrth i mi ddod i arfer â hwn ydi hynny. Ond iyp mae fi hoffi mawr.

Re: Maes-e ar ei newydd wedd

PostioPostiwyd: Llun 21 Ion 2008 10:11 pm
gan nicdafis
Mr Gasyth a ddywedodd:Un peth - oes posib cael y rhithffurfiau etc yn ol i ochr chwith y sgrin mewn edefion - mae'n ei gwneud yn haws cysylltu'r neges a'r negeseuwr.

Dw i'n synnu bod mwy o bobl ddim wedi sôn am hyn cyn ti. Dw i'n eitha lico'r drefn newydd. Mae'n beth iach bod ti ddim bob tro yn gwybod bob tro pwy sy wedi sgwennu rhywbeth wrth i ti ddarlln - nid bod hi'n rhy anodd i edrych i'r dde, neu hyd yn oed sylw ar yr enw uwchben y neges ei hun. Y neges, nid y negesydd. ;-)

Ar ran y peth tri dyfyniad - do'n i ddim wedi sylwi, ond dw i'n meddwl bydd yn wneud pethau yn haws darllen, yn enwedig rhai o'r sgyrsiau dwys yn seiadau Materion Hyn a'r Llall.

Dw i'n edrych ymlaen at gael defnyddio maes-e fel Defnyddiwr am y tro cyntaf. Pa mor hir cyn i mi gael fy ngwahardd? :crechwen:

Re: Maes-e ar ei newydd wedd

PostioPostiwyd: Llun 21 Ion 2008 10:59 pm
gan Ari Brenin Cymru
Dwi'n cytuno, ma'r llun a enw'r defnyddiwr ar y dde yn edrych yn iawn i fi. Just mater o arfer ydi swn in dychmygu. Peidiwch bod mor ffyslud!

Re: Maes-e ar ei newydd wedd

PostioPostiwyd: Llun 21 Ion 2008 11:14 pm
gan Prysor
krustysnaks a ddywedodd:Dwi'n meddwl mai rheol eithaf arferol ar gyfer cwrteisi negesfwrdd yw'r rheol 3 dyfyniad.

Pam bod angen ailfeddwl? Does bosib bod angen dyfynnu cymaint â hynny o bobl ar unwaith i oleuo'r darllenwyr yn ddigonol i weld beth yw pwynt y neges?

Na, dim yn broblem, ond weithia ma'n gneud sens i ddyfynu fel'na pan mae bobol erill wedi cyfrannu postiau rhyngddynt. Hawddach i ddallt. Felly oes, mae na adegau pan mae o'n ddefnyddiol. Mi ddigwyddodd i fi heddiw. Dwi ddim yn mynd i golli cwsg am y peth, ond gan mai edefyn i bobol roi holi/sylwadau am betha newydd ar y maes ydi hwn, roedd gen i funud bach yn sbar i ofyn cwestiwn.

Mr X yn dweud fod stwff Jarman am fod ar gael mewn box set

Mr Y yn ei ddyfynu, gan ddweud "hen bryd"

Mr X yn dyfynu'r dyfyniad, ac ymhelaethu y bydd pob albym "heblaw un", yn y box set

Mr Y yn dyfynu'r dyfyniad o ddyfyniad, a gofyn "pa un?"

Mr X yn dyfynu'r dyfyniad o ddyfyniad o ddyfyniad, a dweud ei bod yn albym sydd ar gaset yn unig

Mr Z (fi) yn rhoi ei big i mewn, yn trio dyfynu'r dyfyniad o ddyfyniad o ddyfyniad o ddyfyniad, wrth ofyn os mai Enka oedd yr albym mae o'n son am.

Ges i neges yn deud "Chei di ddim dyfynu mwy na 3 dyfyniad mewn un". Yn y 6 mlynadd dwi wedi bod yn iwsio'r maes, dwi'n siwr mod i wedi dyfynu mwy na tri oddifewn i un, rywbryd(?). Dyna pam dwi'n recno fod o'n rheol newydd.

Ond peidiwch dyfynu fi ar hynna... :ofn:

Re: Maes-e ar ei newydd wedd

PostioPostiwyd: Llun 21 Ion 2008 11:19 pm
gan Hedd Gwynfor
Prysor a ddywedodd:

Gan fod Prysor wedi gwneud achos mor gryf, fi wedi ei godi i 5 :winc:

Re: Maes-e ar ei newydd wedd

PostioPostiwyd: Llun 21 Ion 2008 11:30 pm
gan Prysor
diolch Hedd! mi gysga i rwan! :winc:

pam fy mod yn cael y teimlad fel fy mod newydd achosi disaster? :lol:

Re: Maes-e ar ei newydd wedd

PostioPostiwyd: Maw 22 Ion 2008 11:21 am
gan Dwlwen
nicdafis a ddywedodd:
Mr Gasyth a ddywedodd:Un peth - oes posib cael y rhithffurfiau etc yn ol i ochr chwith y sgrin mewn edefion - mae'n ei gwneud yn haws cysylltu'r neges a'r negeseuwr.

Dw i'n synnu bod mwy o bobl ddim wedi sôn am hyn cyn ti. Dw i'n eitha lico'r drefn newydd.

Wy'n lico'r drefn newydd hefyd - 'neud e'n haws i ddilyn trywydd trafodeth, plys ma'r ffaith bod y blychoedd trafod yn cael 'u cywasgu yn help mawr (diolch!)

Ma'r cyfan yn edrych yn crisp. Neis iawn. Un cwyn bach though...
nicdafis a ddywedodd:Dw i'n edrych ymlaen at gael defnyddio maes-e fel Defnyddiwr am y tro cyntaf.

Nag o'n i'n gyfrannwyr o'r blaen? Ma'r statws 'defnyddiwr' newydd 'ma'n 'neud i fi deimlo bach yn frwnt :?

Re: Maes-e ar ei newydd wedd

PostioPostiwyd: Maw 22 Ion 2008 1:48 pm
gan Macsen
Oes hawl cael rhithffurfiau bach mwy nawr bod gennym ni focsys mor helaeth ar yr ochor?

Re: Maes-e ar ei newydd wedd

PostioPostiwyd: Maw 22 Ion 2008 3:51 pm
gan Dylan
hmm dw i ddim yn credu fyddwn i am weld hynny. Rhithffurfia mawr yn gallu bod yn hynod distracting ac yn tynnu sylw'r llygad ormod oddi ar y negeseuon eu hunain. Ym marn fach Dylan.