Tudalen 5 o 9

Re: Maes-e ar ei newydd wedd

PostioPostiwyd: Maw 22 Ion 2008 4:52 pm
gan tafod_bach
diolch yn fawr am y wefan newydd sgleiniog.

gai ofyn, oes maeswyr llawchwith eraill wedi cwympo off eu cadeiriau'n trio defnyddio'r cynllun newydd?


ie, i went there: mae'r maes e newydd yn leftist! (i'r rhai sy'n honni bod y bias wastad di bod ffor'arall, gewch chi *chwincydi*)

Re: Maes-e ar ei newydd wedd

PostioPostiwyd: Maw 22 Ion 2008 11:21 pm
gan osian
eusebio a ddywedodd:'Di'r "negeseuon newydd" ddim mor amlwg ... e.e. yn yr hen fersiwn roedden nhw'n oren os nad oeddwn i wedi eu darllen - does 'na'm gwahaniaeth yn y fersiwn yma ar ôl i mi ymweld â'r edefyn.

Ia, y symbol sy'n dangos ar dudalan hafan yn pa seiadau mae 'na neges newydd, diom yn amlwg iawn pa rai sy'n goch. Ond mae'n golygu mod i yn defbnyddio Negeseuon Newydd, sy'n well yn y bon.

Re: Maes-e ar ei newydd wedd

PostioPostiwyd: Maw 22 Ion 2008 11:41 pm
gan Prysor
reit, pwynt o ddifri y tro yma

rwan nad yw'r bwrdd yn derbyn HTML, mae pob linc html sydd wedi ei gynnwys mewn unrhyw bost, yn iwsles, a jesd yn dangos fel tecst y cod.

oes'na rhyw reswm pam na ellir defnyddio html a bbcode?

Re: Maes-e ar ei newydd wedd

PostioPostiwyd: Mer 23 Ion 2008 12:15 am
gan Hedd Gwynfor
Prysor a ddywedodd:reit, pwynt o ddifri y tro yma

rwan nad yw'r bwrdd yn derbyn HTML, mae pob linc html sydd wedi ei gynnwys mewn unrhyw bost, yn iwsles, a jesd yn dangos fel tecst y cod.

oes'na rhyw reswm pam na ellir defnyddio html a bbcode?


Oes, am rhyw reswm mae datblygwyr phpbb3 wedi gollwng cefnogaeth html ers fersiwn phpbb2. Dwi'n tacluso lan unrhyw rhai fi'n gwelkd o amgylch y lle, ond os chi'n sylwi ar dudalennau sy'n cynnwys html, ac felly ddim yn ymddango yn iawn, rhowch y manylion yma.

Re: Maes-e ar ei newydd wedd

PostioPostiwyd: Mer 23 Ion 2008 12:25 am
gan Lali-pwpw
yyyym....gai fod yn boen a gofyn be mar eicons bach ar yr ochr chwith i gyd yn feddwl. fatha'r cylchoedd efo pethan sgrolio a ser bach a ballu.

Re: Maes-e ar ei newydd wedd

PostioPostiwyd: Mer 23 Ion 2008 9:43 am
gan Prysor
Lali-pwpw a ddywedodd:yyyym....gai fod yn boen a gofyn be mar eicons bach ar yr ochr chwith i gyd yn feddwl. fatha'r cylchoedd efo pethan sgrolio a ser bach a ballu.


Dangos statws y seiat/edefyn, o ran negeseuon newydd, negeseuon poblogaidd etc

Re: Maes-e ar ei newydd wedd

PostioPostiwyd: Mer 23 Ion 2008 12:28 pm
gan Norman
Dwi di sylwi fod seren fach goch yn meddwl dy fod wedi postio yn yr edefyn.

Re: Maes-e ar ei newydd wedd

PostioPostiwyd: Iau 24 Ion 2008 12:20 am
gan Norman
Welai bod lliw cefndir glas a gwyn yn cael ei ddefnyddio ar y funud i wahaniaethu rhwng postiau gwahanol, ond sa'm yn well defnyddio'r un syniad i wahaniaethu mwy rhnwg negeseon pobl a'r pethau eraill sydd yng nghlwm ar neges [eu llofnod, manylion rhuthffurfiau ayyb], dwin teimlo fod hi'n anodd anwybyddu'r llofnodau fel mai ar y foment.
Dallt be sgini ?

Re: Maes-e ar ei newydd wedd

PostioPostiwyd: Iau 24 Ion 2008 2:07 am
gan Selador
Hynod houw, be oedd y pwynt? Dim blydi pobol y cwm ydio, sam angan newid sdwff er mwyn dennu gwylwyr newydd, mae o jest yn blydi niwsans.

Re: Maes-e ar ei newydd wedd

PostioPostiwyd: Iau 24 Ion 2008 9:34 am
gan nicdafis
Prysor a ddywedodd:oes'na rhyw reswm pam na ellir defnyddio html a bbcode?


Mae HTML yn fwy hacadwy, dw i'n credu.

Fyddai'n bosibl (dw i'n gofyn o ddifri, dw i ddim yn gwybod) i redeg sgript ar y cronfa ddata sy'n newid pob
Cod: Dewis popeth
<a href="
i
Cod: Dewis popeth
[url]

dileu pob
Cod: Dewis popeth
">

a newid pob
Cod: Dewis popeth
</a>
i
Cod: Dewis popeth
[/url]


Fyddai hynny yn newid y rhan fwya o lincs HTML i BBCode, ond fyddai fe?