Tudalen 6 o 9

Re: Maes-e ar ei newydd wedd

PostioPostiwyd: Maw 22 Ion 2008 11:21 am
gan Dwlwen
nicdafis a ddywedodd:
Mr Gasyth a ddywedodd:Un peth - oes posib cael y rhithffurfiau etc yn ol i ochr chwith y sgrin mewn edefion - mae'n ei gwneud yn haws cysylltu'r neges a'r negeseuwr.

Dw i'n synnu bod mwy o bobl ddim wedi sôn am hyn cyn ti. Dw i'n eitha lico'r drefn newydd.

Wy'n lico'r drefn newydd hefyd - 'neud e'n haws i ddilyn trywydd trafodeth, plys ma'r ffaith bod y blychoedd trafod yn cael 'u cywasgu yn help mawr (diolch!)

Ma'r cyfan yn edrych yn crisp. Neis iawn. Un cwyn bach though...
nicdafis a ddywedodd:Dw i'n edrych ymlaen at gael defnyddio maes-e fel Defnyddiwr am y tro cyntaf.

Nag o'n i'n gyfrannwyr o'r blaen? Ma'r statws 'defnyddiwr' newydd 'ma'n 'neud i fi deimlo bach yn frwnt :?

Re: Maes-e ar ei newydd wedd

PostioPostiwyd: Maw 22 Ion 2008 1:48 pm
gan Macsen
Oes hawl cael rhithffurfiau bach mwy nawr bod gennym ni focsys mor helaeth ar yr ochor?

Re: Maes-e ar ei newydd wedd

PostioPostiwyd: Maw 22 Ion 2008 3:51 pm
gan Dylan
hmm dw i ddim yn credu fyddwn i am weld hynny. Rhithffurfia mawr yn gallu bod yn hynod distracting ac yn tynnu sylw'r llygad ormod oddi ar y negeseuon eu hunain. Ym marn fach Dylan.

Re: Maes-e ar ei newydd wedd

PostioPostiwyd: Maw 22 Ion 2008 4:52 pm
gan tafod_bach
diolch yn fawr am y wefan newydd sgleiniog.

gai ofyn, oes maeswyr llawchwith eraill wedi cwympo off eu cadeiriau'n trio defnyddio'r cynllun newydd?


ie, i went there: mae'r maes e newydd yn leftist! (i'r rhai sy'n honni bod y bias wastad di bod ffor'arall, gewch chi *chwincydi*)

Re: Maes-e ar ei newydd wedd

PostioPostiwyd: Maw 22 Ion 2008 11:21 pm
gan osian
eusebio a ddywedodd:'Di'r "negeseuon newydd" ddim mor amlwg ... e.e. yn yr hen fersiwn roedden nhw'n oren os nad oeddwn i wedi eu darllen - does 'na'm gwahaniaeth yn y fersiwn yma ar ôl i mi ymweld â'r edefyn.

Ia, y symbol sy'n dangos ar dudalan hafan yn pa seiadau mae 'na neges newydd, diom yn amlwg iawn pa rai sy'n goch. Ond mae'n golygu mod i yn defbnyddio Negeseuon Newydd, sy'n well yn y bon.

Re: Maes-e ar ei newydd wedd

PostioPostiwyd: Maw 22 Ion 2008 11:41 pm
gan Prysor
reit, pwynt o ddifri y tro yma

rwan nad yw'r bwrdd yn derbyn HTML, mae pob linc html sydd wedi ei gynnwys mewn unrhyw bost, yn iwsles, a jesd yn dangos fel tecst y cod.

oes'na rhyw reswm pam na ellir defnyddio html a bbcode?

Re: Maes-e ar ei newydd wedd

PostioPostiwyd: Mer 23 Ion 2008 12:15 am
gan Hedd Gwynfor
Prysor a ddywedodd:reit, pwynt o ddifri y tro yma

rwan nad yw'r bwrdd yn derbyn HTML, mae pob linc html sydd wedi ei gynnwys mewn unrhyw bost, yn iwsles, a jesd yn dangos fel tecst y cod.

oes'na rhyw reswm pam na ellir defnyddio html a bbcode?


Oes, am rhyw reswm mae datblygwyr phpbb3 wedi gollwng cefnogaeth html ers fersiwn phpbb2. Dwi'n tacluso lan unrhyw rhai fi'n gwelkd o amgylch y lle, ond os chi'n sylwi ar dudalennau sy'n cynnwys html, ac felly ddim yn ymddango yn iawn, rhowch y manylion yma.

Re: Maes-e ar ei newydd wedd

PostioPostiwyd: Mer 23 Ion 2008 12:25 am
gan Lali-pwpw
yyyym....gai fod yn boen a gofyn be mar eicons bach ar yr ochr chwith i gyd yn feddwl. fatha'r cylchoedd efo pethan sgrolio a ser bach a ballu.

Re: Maes-e ar ei newydd wedd

PostioPostiwyd: Mer 23 Ion 2008 9:43 am
gan Prysor
Lali-pwpw a ddywedodd:yyyym....gai fod yn boen a gofyn be mar eicons bach ar yr ochr chwith i gyd yn feddwl. fatha'r cylchoedd efo pethan sgrolio a ser bach a ballu.


Dangos statws y seiat/edefyn, o ran negeseuon newydd, negeseuon poblogaidd etc

Re: Maes-e ar ei newydd wedd

PostioPostiwyd: Mer 23 Ion 2008 12:28 pm
gan Norman
Dwi di sylwi fod seren fach goch yn meddwl dy fod wedi postio yn yr edefyn.