Tudalen 7 o 9

Re: Maes-e ar ei newydd wedd

PostioPostiwyd: Iau 24 Ion 2008 12:20 am
gan Norman
Welai bod lliw cefndir glas a gwyn yn cael ei ddefnyddio ar y funud i wahaniaethu rhwng postiau gwahanol, ond sa'm yn well defnyddio'r un syniad i wahaniaethu mwy rhnwg negeseon pobl a'r pethau eraill sydd yng nghlwm ar neges [eu llofnod, manylion rhuthffurfiau ayyb], dwin teimlo fod hi'n anodd anwybyddu'r llofnodau fel mai ar y foment.
Dallt be sgini ?

Re: Maes-e ar ei newydd wedd

PostioPostiwyd: Iau 24 Ion 2008 2:07 am
gan Selador
Hynod houw, be oedd y pwynt? Dim blydi pobol y cwm ydio, sam angan newid sdwff er mwyn dennu gwylwyr newydd, mae o jest yn blydi niwsans.

Re: Maes-e ar ei newydd wedd

PostioPostiwyd: Iau 24 Ion 2008 9:34 am
gan nicdafis
Prysor a ddywedodd:oes'na rhyw reswm pam na ellir defnyddio html a bbcode?


Mae HTML yn fwy hacadwy, dw i'n credu.

Fyddai'n bosibl (dw i'n gofyn o ddifri, dw i ddim yn gwybod) i redeg sgript ar y cronfa ddata sy'n newid pob
Cod: Dewis popeth
<a href="
i
Cod: Dewis popeth
[url]

dileu pob
Cod: Dewis popeth
">

a newid pob
Cod: Dewis popeth
</a>
i
Cod: Dewis popeth
[/url]


Fyddai hynny yn newid y rhan fwya o lincs HTML i BBCode, ond fyddai fe?

Re: Maes-e ar ei newydd wedd

PostioPostiwyd: Iau 24 Ion 2008 3:00 pm
gan Hedd Gwynfor
Fi ddim yn siwr Nic, ond mae'r teclyn yma yn ddefnyddiol i'r rhai sydd am newid HTML i phpBB3 code.

http://www.seabreezecomputers.com/html2bbcode/

Re: Maes-e ar ei newydd wedd

PostioPostiwyd: Maw 29 Ion 2008 12:39 pm
gan Norman
Elo,
Ydi hwn . . . .

Delwedd
yn gweithio ? - oes fformat arbennig y dyliwn i ddefnyddio ar gyfer y nifer o ddyddiau, achos tydio'n yn gweithio ar y foment pan dwi'n rhoi '8' yn y bocs - mae nhwn ludiog am tua diwrnod, yna'n dad-ludiogi eu hynnain. Unrhyw syniadau ?

Re: Maes-e ar ei newydd wedd

PostioPostiwyd: Mer 30 Ion 2008 12:41 pm
gan Norman
wel ?

Re: Maes-e ar ei newydd wedd

PostioPostiwyd: Mer 30 Ion 2008 1:41 pm
gan Hedd Gwynfor
Norman a ddywedodd:wel ?


Sori heb weld hwn cyn nawr. Heb drio'r system i ddweud y gwir. Fe wnai bostio hwn ar y bwrdd trafod phpbb3 i weld os oes unrhywun arall yn cael yr un broblem.

Re: Maes-e ar ei newydd wedd

PostioPostiwyd: Gwe 01 Chw 2008 5:33 am
gan Hen Rech Flin
Mae angen iti gwirio'r time outs Hedd.

Does dim modd cael rhagolwg call o neges o dan y drefn newydd, mae'r rhagolwg yn diflanu cyn pen 6 eiliad!

Ac yn yr amser mae'n cymeryd i bostio ymateb i UN neges, mae'r holl negeseuon newydd eraill wedi diflanu!

Re: Maes-e ar ei newydd wedd

PostioPostiwyd: Gwe 01 Chw 2008 10:02 am
gan eusebio
Hen Rech Flin a ddywedodd:Ac yn yr amser mae'n cymeryd i bostio ymateb i UN neges, mae'r holl negeseuon newydd eraill wedi diflanu!


'di hynny ddim yn digwydd i fi efo porwr firefox ...

Re: Maes-e ar ei newydd wedd

PostioPostiwyd: Sul 03 Chw 2008 12:19 pm
gan Prysor
Adolygu neges
Postiwyd o leiaf un neges newydd i’r pwnc hwn. Efallai hoffech chi adolyu’ch neges yn sgîl hyn.


Mae hwn yn feature newydd handi ar y diawl. Da iawn wir.