Tudalen 8 o 9

Re: Maes-e ar ei newydd wedd

PostioPostiwyd: Sul 03 Chw 2008 1:26 pm
gan sian
Prysor a ddywedodd:Mae hwn yn feature newydd handi ar y diawl. Da iawn wir.


Ydi - dw i'n lico hwnna.

Ond mae dipyn bach o niwsans nad wyt ti'n gallu mynd i Negeseuon Newydd yn syth wrth fewngofnodi. Pam mae eisiau "Rydych wedi mewngofnodi yn llwyddiannus"? Jest yn arafu pethau.
A mae'n niwsans gorfod sgrolio reit lan i'r top i gael y botwm "Negeseuon Newydd" - roedd un ar y gwaelod hefyd o'r blaen.

Re: Maes-e ar ei newydd wedd

PostioPostiwyd: Sul 03 Chw 2008 1:46 pm
gan Prysor
Cytuno.

A mae'r time-outs yn rhy fyr. Os ti'n clicio'r botwm 'Back' ar y porwr, mae'r dudalen wedi diflannu, a rhaid mynd yn ôl i'r seiat i ffendio'r edefyn.

Re: Maes-e ar ei newydd wedd

PostioPostiwyd: Sul 03 Chw 2008 6:49 pm
gan eusebio
Defnyddiwch borwr call ... 'da chi'n defnyddio IE dydach?

Re: Maes-e ar ei newydd wedd

PostioPostiwyd: Sul 03 Chw 2008 6:52 pm
gan Prysor
oedd IE yn gweithio'n iawn cynt de

Re: Maes-e ar ei newydd wedd

PostioPostiwyd: Sul 03 Chw 2008 7:15 pm
gan sian
eusebio a ddywedodd:Defnyddiwch borwr call ... 'da chi'n defnyddio IE dydach?


Na - Safari.

Re: Maes-e ar ei newydd wedd

PostioPostiwyd: Sul 03 Chw 2008 10:43 pm
gan 7ennyn
sian a ddywedodd:
eusebio a ddywedodd:Defnyddiwch borwr call ... 'da chi'n defnyddio IE dydach?


Na - Safari.

Wwwwww! La di da! :winc:

Re: Maes-e ar ei newydd wedd

PostioPostiwyd: Sul 03 Chw 2008 10:50 pm
gan eusebio
sian a ddywedodd:
eusebio a ddywedodd:Defnyddiwch borwr call ... 'da chi'n defnyddio IE dydach?


Na - Safari.


eusebio a ddywedodd:Defnyddiwch borwr call ...


:P

Re: Maes-e ar ei newydd wedd

PostioPostiwyd: Llun 04 Chw 2008 7:39 am
gan sian
Mae Firefox yn edrych run peth i mi. :?

Re: Maes-e ar ei newydd wedd

PostioPostiwyd: Iau 28 Chw 2008 3:00 pm
gan Prysor
Ar Firefox, mae'r sgrifen yn llawer ysgafnach (mwy faint) a theneuach (ac yn debyg i Comic Sans tenau), ac felly anoddach ei weld, nag efo IE.

Oes unrhyw beth ellir wneud i newid hyn? Go brin, ei sypôs?

Re: Maes-e ar ei newydd wedd

PostioPostiwyd: Iau 28 Chw 2008 5:53 pm
gan Hedd Gwynfor
Yn Firefox cer i Offer>Dewisiadau>Cynnwys a wedyn mae modd i ti ddewis pa bynnag ffont wyt ti eisiau a pa bynnag faint hefyd 8)