Tudalen 9 o 9

Re: Maes-e ar ei newydd wedd

PostioPostiwyd: Sul 23 Maw 2008 3:58 am
gan Hen Rech Flin
Hedd, a oes modd iti ymestyn amser y rhagolwg i neges newydd?

Wedi defnyddio'r Gymraeg am 35 o'm hanner can mlynedd mae esgus y dysgwr neu'r ail iaith yn wan iawn bellach, ond rwyf, o hyd, yn teimlo'r angen i adolygu pob cyfraniad Cymraeg cyn ei ddanfon.

Eiliadau yn unig mae'r rhagolwg yn bod, prin digon imi ddarllen hanner frawddeg, heb son am bendroni am dreigliad neu rediad berf gywir!

Re: Maes-e ar ei newydd wedd

PostioPostiwyd: Sul 23 Maw 2008 11:42 am
gan Hedd Gwynfor
Hen Rech Flin a ddywedodd:Hedd, a oes modd iti ymestyn amser y rhagolwg i neges newydd?

Wedi defnyddio'r Gymraeg am 35 o'm hanner can mlynedd mae esgus y dysgwr neu'r ail iaith yn wan iawn bellach, ond rwyf, o hyd, yn teimlo'r angen i adolygu pob cyfraniad Cymraeg cyn ei ddanfon.

Eiliadau yn unig mae'r rhagolwg yn bod, prin digon imi ddarllen hanner frawddeg, heb son am bendroni am dreigliad neu rediad berf gywir!


Helo Hen Rech. Dwi ddim yn siwr pam wyt ti'n cael y broblem yma, achos nid oes unrhyw derfyn amser yn bodoli pan yn defnyddio 'rhagolwg'. Dwi'n ei ddefnyddio nawr, ac wedi aros am rhyw 3 munud a nid oes unrhywbeth yn digwydd tan fy mod i'n gwasgu un o'r 3 botwm 'cadw', 'rhagolwg' neu 'anfon'. Pa borwr wyt ti'n defnyddio? Dwi'n defnyddio Firefox, ac nid yw hyn yn digwydd i fi. :?