Tudalen 1 o 1

Y Tîm

PostioPostiwyd: Sul 20 Ion 2008 2:25 pm
gan Hedd Gwynfor
Nodwedd ychwanegol o phpBB3 (sef y rhaglen newydd y mae maes-e yn ei ddefnyddio) yw'r ffaith fod modd gweld yr holl Weinyddwyr a Chymedrolwyr yn awr ar un tudalen taclus trwy bwyso ar y ddolen Y Tîm sydd ar waelod pob tudalen.

Cofiwch ddefnyddio'r system 'Adrodd' os ydych chi'n gweld neges gan Faeswr arall sydd angen sylw y cymedrolwyr. Os oes gyda chi unrhyw gwestiynau ynglyn a defnyddio maes-e, edrychwch am yr atebion yn y seiat 'Defnyddio maes-e', neu ewch at adran berthnasol y dudalen 'Cymorth'. Gallwch hefyd chwilio am yr ateb trwy ddefnyddio'r Chwilotydd yma.

Ar ôl trio'r uchod, os i chi dal yn methu dod o hyd i'r ateb, cysylltwch gyda un o'r Gweinyddwyr neu Gymedrolwyr trwy neges breifat! :D