Rhaid i mi ymddiheurio fod y maes wedi bod lawr am ran helaeth o'r diwrnod. Ni wedi bod yn cael problem mawr gyda'r gweinydd, ac er na ddylai fod unrhyw broblem (gan fod y gweinydd yn hen ddigon pwerus) mae problemau wedi bod. Ni wrthi'n trafod gyda'r bobl sy'n rheoli'r gweinydd i sicrhau nad yw hyn yn digwydd eto, ac hefyd i sicrhau nad yw'r negeseuon gwall yn ymddangos yn achlysurol rhagor
Roedd yna wastad bosibiliad wrth newid gweinydd ac uwchraddio y byddai rhai problemau yn ystod yr wythnos 1af. Dim ond gobeithio fod y problemau tu ol i ni nawr!