Tudalen 1 o 1

Lliwiau Enw Defnyddiwr

PostioPostiwyd: Gwe 25 Ion 2008 7:02 pm
gan Hedd Gwynfor
Fe sylwch fod rhai enwau defnyddwyr mewn coch, rhai yn wyrdd, ac eraill yn las.

Coch = Gweinyddwyr
Gwyrdd = Cymedrolwyr
Glas = Defnyddiwr

Re: Lliwiau Enw Defnyddiwr

PostioPostiwyd: Sad 26 Ion 2008 9:25 am
gan eusebio
Oes rhaid i'r coch fod mor llachar? Mae gen i ofn bod pob neges gan Hedd (no offence, like) yn fwy amlwg nag unrhyw un arall oherwydd cochni'r coch!

Re: Lliwiau Enw Defnyddiwr

PostioPostiwyd: Sad 26 Ion 2008 12:53 pm
gan Mwnci Banana Brown
Dwi di bod yn meddwl na. Sim hin bosib newid y lliwie i rwbeth bach mwy discreet, fel wedd e arfer fod?

Re: Lliwiau Enw Defnyddiwr

PostioPostiwyd: Sad 26 Ion 2008 12:59 pm
gan Macsen
Dwi'm yn credu bod y lliwiau gwyrdd a coch yn gweddu i colour-scheme gweddill y fforwm. Wela'i ddim pam bod angen enwau pobol mewn lliwiau gwahanol chwaith - tu hwnt i'w rol gwirfoddol fel ceidwad ryw seiad neu'i gilydd mae eu barn nhw'r un mor ddilys a'r dyn nesa.

Fydda tanlinellu enw neu ei roi mewn bold (fel ar fforwm arall dw i'n ymweld ag ef) yn lot mwy cynnil.

Re: Lliwiau Enw Defnyddiwr

PostioPostiwyd: Sad 26 Ion 2008 7:20 pm
gan Hedd Gwynfor
Macsen a ddywedodd:Wela'i ddim pam bod angen enwau pobol mewn lliwiau gwahanol chwaith - tu hwnt i'w rol gwirfoddol fel ceidwad ryw seiad neu'i gilydd mae eu barn nhw'r un mor ddilys a'r dyn nesa.


Does neb yn awgymu eu bod nhw. Dyma'r lliwiau default sy'n dod gyda'r pecyn. Y syniad yw fod pobl yn gallu adnabod yn hawdd y gweinyddwyr a Cymedrolwyr rhag ofn bod angen cysylltu gyda nhw. Os oes pobl yn teimlo'n gryf am y lliwiau, fe wnaf i edrych i weld os oes modd eu newid, ond mae pethau pwysicach i boeni yn eu cylch. :winc:

Re: Lliwiau Enw Defnyddiwr

PostioPostiwyd: Sad 26 Ion 2008 7:30 pm
gan Hedd Gwynfor
Mewn edefyn, mae enwau pawb yn bold, felly dyw'r gwahaniaeth ddim i'w weld cymaint, ond ar yr hafanddalen, mae enwau'r Gweinyddwyr a'r Cymedrolwyr yn bold, ond nid y defnyddwyr, a dwi ddim cweit yn deall pam. Efallai be wnaf i ydy newid y tri i las (os wnai weithio allan sut!) ond defnyddio shades ychydig bach yn wahanol.

Re: Lliwiau Enw Defnyddiwr

PostioPostiwyd: Sad 26 Ion 2008 7:45 pm
gan Hedd Gwynfor
Lliwiau yma'n well?

GWEINYDDWYR

CYMEDROLWYR

DEFNYDDWYR

Re: Lliwiau Enw Defnyddiwr

PostioPostiwyd: Sad 26 Ion 2008 8:27 pm
gan Macsen
Ydi lot gwell, diolch.

Re: Lliwiau Enw Defnyddiwr

PostioPostiwyd: Sad 26 Ion 2008 8:31 pm
gan sian
Ydyn nhw ddigon gwahanol?

Re: Lliwiau Enw Defnyddiwr

PostioPostiwyd: Sul 27 Ion 2008 6:39 pm
gan Mwnci Banana Brown
Na welliant bois. Un da.