Roedd sawl un yn cwyno fod gormod o seiadau ar hafan maes-e, felly dwi wedi newid y strwythur i ddangos y prif seiadau yn unig ar yr hafan. Fel i chi'n gweld, mae yna dal ddolen hawdd at yr is-seiadau yn uniongyrchol o'r hafan hefyd. Ydy hyn yn welliant, ac a oes angen newid unrhywbeth o ran y drefn yn eich tyb chi?
Ma'n well yn fy marn i. odd y dudalan hafan yn rhy hir, dwim yn shwr os oes angan yr is-seiadau yn dangos, ella san well peidio dangos is seiadau y cylchoedd?
O na ! Mae maes-e 'di shrincio . Dwi'n meddwl bod teitlau y gwahanol is seiadau yn dipyn o sgwash fel mae pethau wedi cael ei gosod ar hyn o bryd.Oes posibl eu gweld mewn ffurf rhestr ....neu fasa hynny rhy debyg i'r hen drefn?