Dan Dean a ddywedodd:Rhys Llwyd a ddywedodd:Dwi'n gwybod, nid credu, fod Cristnogion yn bobl sydd yn gwybod y gwirionedd...
...mae'r Cristnogion yn gwybod eu bod nhw'n iawn...
...Ac oherwydd fod y di-gred heb ffydd maen nhw, yn ddi-ymwybod iddyn nhw eu hunain, yn eiddugeddus o'r hyn sydd gan Gristnogion
Aaargh! Ni allaf ddioddef yr agwedd yma!! "Www mae nhw'n eiddigeddus ohonof i achos dwi wedi ffeindio'r gwirionedd a dy nhw heb" - sod off! Celwydd!
Tyd laen, mi wyt ti yn anheg yn fy hanner dyfynu fan yna, mi wnes i resymu fy safbwynt yn llawn ond mi wyt ti wedi ei dorri i lawr i headlines unochrog. Dwi WIR isho deialog, ond dydy deud "sod off" ddim rili mynd i ddechrau deialog nac ydi?
Dwi rili sho rhannu fy ffydd, ond dwi'n ei chael hi'n gythreulig o annodd genud hynny achos ma profiad y Cristion yn rywbeth mor unigryw ac maen anodd meddwl sut i ddisgrifio'r peth i bobl sydd heb gael y profiad. Dwi wir mor rhwystredig a chdi fan yma Dan Dean. Sori
Ond drwy honni mod i'n dweud "celwydd" mae dy safbwynt di mor 'ffwndamentalaidd' a fy un i. Nid oes prawf gen ti fod fy ffydd i yn gelwydd nac oes ond mae prawf gen i fod fy ffydd i yn gywir oherwydd fod genai brofiad o Dduw ond dwi'n cicio fy hun nad yw'n bosib dangos hynny gyda'r synhwyrau - a dyfynnu Gwyneth Glyn rhaid i ni "gau ein llygaid ac agor ein henaid." Dwi mor sori, dwi yr un mor rhwystredig a chi nad ydw i'n medru esbonio a rhannu fy ffydd yn well... dwi wir isho jest mod i'n dod drosto braidd yn sych ar y we (fel pawb arall). Se lot gwell genai rhannu fy ffydd wyneb yn wyneb fel dwi di cael cyfle i neud efo rhai pobl all dystio, gobeithio, mod i'n foi iawn yn y bon