Mae'r ateb yn un syml - peidiwch a bwydo'r trols!
(Dwi'n sbio i dy gyfeiriad di, ceribethlem! )
Dan Dean a ddywedodd:Dadleuon Theolegol ddim digon ffit i fod yn gyhoeddus ar maes-e? Dadl darwinaidd iawn.Be uffar sy'n digwydd i Faes-e yn ddiweddar lads?
Gyda aelodau newydd fel Gwenthingi a Seinyllt ab Wmffree i adio at rooney mae ffwndamentalwyr cristnogol yn brysur cymeryd drosodd. Hwre.
Manon a ddywedodd:Ma'r seiat chwaraeon loads mwy boring na ffydd a chrefydd, gyda llaw.
Mr Gasyth a ddywedodd:Dwi'n meddwl fod pethau wedi gaethygu gan fod y Cristnogion call bellach yn trafod ymysg eu gilydd yn eu seiat breifat yn hytrach na chyfrannu i edefion sy'n agored i bawb. Mae hyn yn drueni hefyd ac yn gadale y llwyfan yn wag i rooney a'i debyg.
tafod_bach a ddywedodd:chwysfys coslyd
Fi'n cytuno gyda Rhys a gyda ail-bwynt Mr Gasyth. Mae rooney yn defnyddio techneg o firebomio pob edefyn gyda'r un neges (er yn newid ei eiriad ar adegau), sy'n golygu fod negeseuon call pobl fel Rhys Llwyd, Foel gornach, Cardi Bach ac eraill yn cael eu boddio.Rhys Llwyd a ddywedodd:Mr Gasyth a ddywedodd:Dwi'n meddwl fod pethau wedi gaethygu gan fod y Cristnogion call bellach yn trafod ymysg eu gilydd yn eu seiat breifat yn hytrach na chyfrannu i edefion sy'n agored i bawb. Mae hyn yn drueni hefyd ac yn gadale y llwyfan yn wag i rooney a'i debyg.
Gyda llaw, nid oes llawer o drafod yn y seiat breifat, yn sicr nid ar draul y rhai agored.
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 18 gwestai