Rhys Llwyd a ddywedodd:Dwi'n gwybod, nid credu, fod Cristnogion yn bobl sydd yn gwybod y gwirionedd...
...mae'r Cristnogion yn gwybod eu bod nhw'n iawn...
...Ac oherwydd fod y di-gred heb ffydd maen nhw, yn ddi-ymwybod iddyn nhw eu hunain, yn eiddugeddus o'r hyn sydd gan Gristnogion
Aaargh! Ni allaf ddioddef yr agwedd yma!! "Www mae nhw'n eiddigeddus ohonof i achos dwi wedi ffeindio'r gwirionedd a dy nhw heb" - sod off! Celwydd!
Dwi wedi sylwi bod fy agwedd at grefydd lot gwaeth ar ol i'r seiat ma ddod yn boblogaidd. A fel mae'r dyfyniadau uchod yn ddangos, nid rooney sydd 100% ar fai (agosach at 90%).
Oeddwn i yn cysidro dechrau edefyn arall yn gofyn beth yn union yw "Profiad o Dduw" a gofyn i'r Cristnogion am eu "profiad" nhw ond nai ddim oherwydd mae na ormod o bynciau am grefydd fel mai a hefyd mae'n siwr fod yr ateb yma rwla yn barod (os fedrith rhywun weld ateb i'r cwestiwn gai linc i'r edefyn? Siwr bod Rhys neu rhywyn arall wedi ateb o yn barod, siawns?)