Be uffar sy'n digwydd i Faes-e yn ddiweddar lads?
Mae'r holl ddadleuon Cristionogol hirwyntog ma i weld yn cymeryd drosodd o bynciau eraill y maes - mae hi'n dod yn anoddach fyth i gael darllen pynciau sy' ddim yn ein hannog i beidio mynd i uffern a.y.b.
Maddeuwch i mi os dwi'n bod yn hy' - ond oes na unrhywun arall yn teimlo eu bod bron â chael poen bol o'r dadlau di-derfyn theolegol ma?