Tudalen 1 o 2
Rhithffurf
Postiwyd:
Iau 06 Maw 2008 3:15 pm
gan joni
[Dwi di trio neud search ond nes i ddim ffindo unrhywbeth. Dim dowt y fydd rhywun yn pwyntio fi i'rr lle cywir os yw e'n bodoli]
Pam so fi'n gallu newid rhithffurf fi i be i fi moyn? I fi dim ond yn gallu dewis mas o gallery maes-e. Yw hwn yn rywbeth newydd? Odw i wedi methu rhywbeth sylfaenol? Help!
Re: Rhitffurf
Postiwyd:
Iau 06 Maw 2008 5:33 pm
gan Macsen
Gen i'r un broblem. Wnes i ddileu'r hen rithffurff er mwyn cal un newydd ond nawr dw i'n styc yn edrych fel mwnci.
Re: Rhitffurf
Postiwyd:
Iau 06 Maw 2008 6:39 pm
gan Mali
Macsen a ddywedodd:Gen i'r un broblem. Wnes i ddileu'r hen rithffurff er mwyn cal un newydd ond nawr dw i'n styc yn edrych fel mwnci.
Re: Rhitffurf
Postiwyd:
Gwe 07 Maw 2008 3:08 pm
gan joni
ahem...Hedd? Unrhywun? Help! Gymaint a fi'n lico Leela, dim dyna be fi moyn yna...
Re: Rhithffurf
Postiwyd:
Gwe 07 Maw 2008 6:33 pm
gan nicdafis
Wyt ti wedi cysylltu â Hedd yn uniongyrchol? Mae'n bosibl fod e ddim wedi gweld yr edefyn yma.
Re: Rhithffurf
Postiwyd:
Gwe 07 Maw 2008 8:28 pm
gan Kez
nicdafis a ddywedodd:Wyt ti wedi cysylltu â Hedd yn uniongyrchol? Mae'n bosibl fod e ddim wedi gweld yr edefyn yma.
Dydd Gwener yw hi - bydd e mas ar y piss yn rhywle. Bydd e'n pallu gweld dim byd cyn prynhawn dydd Llun - hopeless case
Re: Rhithffurf
Postiwyd:
Sul 09 Maw 2008 11:20 am
gan Hedd Gwynfor
Newydd weld hwn. Dwi'n amau ei fod ynghlwm gyda'r broblem o fethu llwytho atodiad. Rhywbeth i wneud gyda'r 'Permissions' ers ail-osod y weinydd. Ddim yn siwr sut i ddatrys hyn ar hyn o bryd, ond yn edrych mewn i'r peth.
Re: Rhithffurf
Postiwyd:
Llun 17 Maw 2008 7:08 pm
gan Gwenci Ddrwg
Oce grêt, pob lwc 'da datrys y mater, yn amlwg iawn mae gen i'r un problem 'na phawb arall a ro'n i'n am greu pwnc newydd amdani cyn darganfod hwn.
Wrth gwrs dwi'n hoffi cefnogi Torontonian arall ond mae 'na rhithffurfiau gwell yn y byd.
Re: Rhithffurf
Postiwyd:
Mer 09 Ebr 2008 8:48 am
gan Reufeistr
Ydi'r broblem yma'n agos at gael ei sortio bellach? Dwisho newid rhithffurf fi i delwedd y boi sydd ar album Bruce Haack - Electric Lucifer. Reit handi wan plis.
Re: Rhithffurf
Postiwyd:
Mer 09 Ebr 2008 9:50 am
gan Hedd Gwynfor
Sori mawr am yr oedi. Dwi ddim yn gwybod sut i ddatrys hyn, ac mae fy Nghynghorwyr technegol i gyd yn brysur iawn. Gobeithio bydd modd i ni sortio hwn allan, + yr ambell i broblem arall sydd wedi codi dros yr wythnosau diwethaf yn go gloi...