Tudalen 1 o 1

y niferoedd sydd yn darllen pob edefyn

PostioPostiwyd: Gwe 21 Maw 2008 12:19 am
gan Kez
Odi'r niferoedd sydd yn darllen pob edefyn yn gywir?

Ma' un edefyn o dan seiat cerddoriaeth - Be sydd ar eich stereo ar y funud - yn dishgwl inni gredu bod 151,764 o bobl wedi cael pip arno
Ma' na un edefyn arall o dan seiat iaith - Cernyweg/Kerneweg - yn rhoi'r ffigur o 11,284

Alla i ddim credu'r niferoedd 'ma.

Os yn nhw'n gywir, wela i ddim lle ma'r broblem o ddenu 7,000 o ddarllenwyr i'r papur newydd Y Byd :!:

Re: y niferoedd sydd yn darllen pob edefyn

PostioPostiwyd: Gwe 21 Maw 2008 12:36 am
gan ger4llt
Dwi'n credu 'u bod nhw'n gywir sdi Kez - edrycha ar oedran yr edefyn, er enghraifft. Ma "be sydd ar eich stereo..." yn ryw 5 mlynedd oed erbyn hyn - a ma'n edefyn digon diddorol i archifo hefyd, fel argymhellion ar gyfer cds a ballu.

'Falla bod hyn yn ffactor...pa mor hen yw'r edefyn Y Byd erbyn hyn? Dwi'n meddwl bod 7, 000 o ddarllenwyr yn ffigwr digon parchus ar ei gyfer, ac os yw'r neges yn cyrraedd y darllenwyr - hynna sy'n bwysig...sdim angan mynd yn dechnegol - dim ond rhifa di-synnwyr ydyn nhw cofia! :winc:


Be sy'n y nghymlethu i fwya ydi nifer yr aelodau yma sydd wedi trafferthu i ymaelodi, a heb fynd ati i bostio neges syml - a dwi'n parchu pob aelod sy'n defnyddio'r seiat Croeso a Chyfarchion hefyd. Wrth gael golwg fach wan, a chydig o faths syml :winc:

Nifer heb ysgrifennu un neges: 1233 38%
Nifer wedi ysgrifennu llai na 10 neges : 2230 68%

Pam hyn ta? Dwim yn un i ddeud 'mod i'n bostiwr brwd, ond dwi'n siwr bod gan 1233 o aeloda rywbeth bychan i gyfrannu 'ma. :rolio:

Re: y niferoedd sydd yn darllen pob edefyn

PostioPostiwyd: Gwe 21 Maw 2008 10:51 am
gan eusebio
Kez, os ti'n ymweld ê'r edefyn 10 gwaith ti'n cael dy gyfri fel 10 ymwelydd - dim ond unwaith sa ti'n darllen Y Byd de?

Re: y niferoedd sydd yn darllen pob edefyn

PostioPostiwyd: Gwe 21 Maw 2008 4:29 pm
gan Kez
eusebio a ddywedodd:Kez, os ti'n ymweld ê'r edefyn 10 gwaith ti'n cael dy gyfri fel 10 ymwelydd - dim ond unwaith sa ti'n darllen Y Byd de?


Wi'n falch iawn os yw'r ffigyra yn gywir. Parthed Y Byd- isha 7000 o bobl i brynu'r papur er mwyn ei gynnal fu'r nod fi'n credu; bysa lot mwy o ddarllenwyr gyda'r papur na hynny os bysan nhw'n llwyddo cyrraedd y nod hwnnw - mewn llyfrgelloedd, pasio'r papur o law i law ymysg aelodau'r teulu, yn y deintydd ac yn y blaen.

Fi'n credu bod niferoedd pobol sy'n darllen edefion ar faes-e yn galonogol iawn - rhai ohonynt fel nodais i yn y miloedd uchel - niferoedd uchel iawn er gwaetha'r ffaith bod 'na unigolion sy'n ail-ymweld dro ar ol tro.

Efalla dylsa adroddiad Bianchi ynglyn a arferion darllen y Cymry a'r posibilrwydd o sefydlu a chynnal papur dyddiol Cymraeg wedi edrych ar boblogrwydd y maes yn ogystal a chylchrediad cylchgronau Cymraeg. Yn sicr, i'm barn i ac yn ol ffigyrau Maes-e, mae'n amlwg bod cynulleidfa ar ei gyfer ar y we.